Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Delwedd o Mustafa Al-Khafaji yn nalfa'r heddlu
Mae deliwr cyffuriau o Abertawe a oedd yn cyflenwi crac cocên wedi cael ei garcharu am bum mlynedd a saith mis.
Cafodd Mustafa Al-Khafaji ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl cyfaddef ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Gwnaeth ein Tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol nodi ffôn symudol a oedd yn cael ei ddefnyddio i hwyluso cyflenwi crac cocên.
Ar 5 Medi 2026, roedd swyddogion yn cynnal ymchwiliadau arestio ac fe ddaethant o hyd i'r ffôn symudol wrth ymyl matres pan wnaethant ffonio'r rhif yr oeddent yn ymchwilio iddo.
Gwnaethant adfer crac cocên a phethau eraill yn ymwneud â chyffuriau gan gynnwys clorian a bagiau snap a oedd yn cynnwys gweddillion a bicarbonad soda.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Heather Southway: "Rydym wedi ymrwymo i dargedu'r sawl sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon sy'n achosi niwed sylweddol i gymunedau ledled de Cymru.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau yn ei ardal gysylltu â ni gan y byddwn yn gweithredu ar yr wybodaeth honno pryd bynnag y bo modd."
Oes gennych wybodaeth am rywun rydych chi'n amau ei fod yn delio cyffuriau? Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy 101 neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.