Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu am droseddau cyffuriau yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Daniel Merry, 36 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Fe'i dedfrydwyd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 8 Hydref, lle plediodd Merry yn euog i un achos o ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig o Ddosbarth B - canabis - ac un achos o ymwneud â chyflenwi cocên.
Roedd swyddogion ar batrôl ym mis Awst 2026 pan welsant fan Ford Transit oedd yn gysylltiedig â Merry a'i stopio gan nad oedd MOT ar y cerbyd. Ar ôl stopio'r fan, siaradodd y swyddogion â Merry. Cafodd Merry ei chwilio a chanfuwyd bod ganddo iPhone oren a waled ddu yn cynnwys £700.
Yn dilyn hynny, aeth swyddogion ati i chwilio eiddo oedd yn gysylltiedig â Merry. Yno, daethant o hyd i sawl bag yn cynnwys tabledi, cyllell glo a bwa croes. Pan gafodd cynnwys ffôn Merry ei lawrlwytho, gwelwyd ei fod yn cynnwys negeseuon a oedd yn ei gysylltu â gweithgarwch cyflenwi cocên yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Justyn Lewis: "Dilynodd ein timau eu greddf, ac mae Merry yn wynebu dedfryd hir o garchar yn sgil y gweithredu hwn."
"Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar ein cymunedau, felly mae cadw'r cyffuriau hyn oddi ar y strydoedd yn flaenoriaeth i'n timau."