Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gloi ei gyn-bartner yn ei chartref a'i gadael heb unrhyw fodd o gysylltu ag unrhyw un er mwyn ceisio dianc.
Gwnaeth Daniel Green, 35 oed o Dreforys, bwnio ei ddioddefwr yn ei hwyneb sawl gwaith cyn cymryd ei ffôn oddi wrthi a'i chwalu’n ddarnau. Fe gymerodd ei hallweddi oddi wrthi hefyd.
Ceisiodd Green wrthsefyll swyddogion a'u rhwystro wrth iddynt ei arestio, gan daro swyddog benywaidd â'i ben a'i chicio.
Ym mis Awst, plediodd Green yn euog i ddau achos o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol, un achos o gam-garcharu ac un achos o ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o dair blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Penny Romanello:
"Mae’n amlwg bod Daniel Green yn droseddwr treisgar sy'n peri perygl difrifol i fenywod.
"Yn debyg i sawl camdriniwr arall, roedd e'n baranoiaidd bod y dioddefwr yn anffyddlon. Ond ef oedd y bygythiad mwyaf i'w perthynas mewn gwirionedd, a hynny oherwydd ei ymddygiad ymosodol.
"Dim ond achos bod y dioddefwr wedi llwyddo i agor y ffenestr a gweiddi am help y gwnaeth cymydog ffonio'r heddlu ar ôl i Green ei chloi yn ei chartref ei hun.
"Mae ef wedi gadael y dioddefwr yn llawn ofn ac yn gysgod y person yr oedd hi, a bydd effeithiau seicolegol ei gam-drin yn para am gyfnod hir. Hyd heddiw, mae'r dioddefwr yn ei chael hi'n anodd gadael y tŷ.
"Nid yw’r ffaith ei fod dan ddylanwad alcohol ar adeg ei droseddu yn esgus. Mae hyn yn enghraifft o gam-drin domestig mynych na ddylai neb orfod ei ddioddef. Roedd ei ymddygiad allan o reolaeth, ac oherwydd hynny, carchar yw'r unig le ar ei gyfer."