Stamp amser presennol: 30/10/2026 17:51:20
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Gweithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Beth yw llwyth annormal?
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Clirio, Dal, Adeiladu: Gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dilyn y cam Clirio yn Nyfaty

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 13:00 29/10/2026

CHB Dyfatty Resized.jpg

Mae adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng fwy na 37% mewn ardal yn Abertawe ar ôl i bartneriaid gymryd camau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â phroblemau oedd wedi bod yn effeithio ar drigolion ers blynyddoedd lawer.

Lansiodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe brosiect Clirio, Dal, Adeiladu o dan y teitl ‘Adeiladu Dyfaty Gwell’ i fynd i'r afael â’r problemau sy'n amharu ar yr ardal i'r gogledd o ganol dinas Abertawe. Mae hon yn ardal sydd wedi profi achosion parhaus o ymddygiad gwrthgymdeithasol, dwyn o siopau, gwerthu cyffuriau a throseddau eraill ers cryn amser.

Mae Clirio, Dal, Adeiladu yn ddull cydnabyddedig o darfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol a'u lleihau, gan helpu cymunedau i adfer mannau cyhoeddus, meithrin gwydnwch a chreu cymdogaethau mwy diogel yn y pen draw. Mae'r rhaglen yn dilyn model Clirio, Dal, Adeiladu y Swyddfa Gartref ac yn cyfuno gweithgarwch gorfodi cydlynol, gwaith sefydlogi cymunedau a datblygiad cymdeithasol, economaidd a chymunedol tymor hwy.

Bydd y cam Clirio, sydd wedi cael ei gynnal dan arweiniad Heddlu De Cymru, yn dechrau symud i gam Dal y fenter o 30 Medi. Cyngor Abertawe fydd yn gyfrifol am oruchwylio gweithgarwch yn ystod y cam hwn, gan weithio gyda’i holl bartneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae'r cam Clir, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni, wedi arwain at y canlyniadau canlynol hyd at 13 Hydref:

  • Arestiwyd 143 o bobl
  • Cyhoeddwyd 93 gorchymyn gwasgaru o dan Adran 35
  • Stopiwyd a chwiliwyd 151 o unigolion – cynnydd o 65.9% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol
  • Cyhoeddwyd 8 Hysbysiad/Rhybudd Gwarchod y Gymuned
  • Cynhaliwyd 9 gwarant ar gyfer camddefnyddio cyffuriau

 

Bu gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer yr adroddiadau a gawsom am fasnachu cyffuriau (48%), meddu ar gyffuriau (25.8%), dwyn oddi wrth unigolyn (16.7%), difrod troseddol (14.3%) a thrais heb achosi anaf (13.5%).

Mae’r adran Safonau Masnach wedi rhoi gorchymyn cau i dri busnes lleol yn yr ardal hefyd.

Mae cyllid ychwanegol wedi cael ei ddyrannu wrth i brosiect Clirio, Dal, Adeiladu symud yn ei flaen i gynnal patrolau a galluogi gweithio mewn partneriaeth yn yr ardal.

Mae'r prosiect Clirio, Dal, Adeiladu wedi arwain at arestio nifer o droseddwyr lleol yn Nyfaty a'r ardaloedd cyfagos, eu dwyn gerbron y llysoedd a'u dedfrydu. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwerthwr cyffuriau Flynn Johnson Andrews, 28 oed o Hafod. Llwyddodd yr heddlu i'w adnabod drwy negeseuon Snapchat oedd yn ei ddangos yn gwerthu canabis a chetamin. Fe'i dedfrydwyd i bedair blynedd yn y carchar.
  • Andrew Flipping, 48 oed, a Paul Martin, 58 oed, oedd wedi ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A. Cafodd Flipping ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar a chafodd Andrews ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis o garchar.
  • Ricco Jones, troseddwr mynych a gafodd ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn, ymosod, achosi difrod troseddol a thorri Gorchymyn Ymddygiad Cymunedol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro Andrew Hedley:

"Rydym wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol ym menter Adeiladu Dyfaty Gwell wrth i’r cam Clirio ddod i ben. Mae’r gwaith hwn yn dangos yr hyn mae’n bosibl ei gyflawni pan fyddwn ni’n gweithio mewn partneriaeth yn barhaus ac yn cynnal gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar gamau gorfodi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi tarfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol, wedi targedu'r rheini sy'n gyfrifol am ddelio cyffuriau ac achosi niwed i’r gymuned, ac wedi dwyn nifer o droseddwyr mynych o flaen eu gwell."

"Mae'r gostyngiad yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a mathau eraill o droseddu yn galonogol, ond nid dyma ddiwedd ein gwaith. Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i gynnal presenoldeb sylweddol yn yr ardal a chydweithio â'n partneriaid o Gyngor Abertawe a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn parhau a bod trigolion yn teimlo'n fwy diogel yn eu cymdogaethau o hyd."

"Wrth i ni symud i'r cam Dal, bydd ein hymrwymiad yn aros yr un fath. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y rheini sy'n ymwneud â throseddau cyfundrefnol difrifol, gweithredu yn sgil yr wybodaeth a gawn gan aelodau o'r gymuned, a chefnogi ymdrechion hirdymor i wneud Dyfaty yn ardal fwy diogel byth i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr. Mae’r neges yn glir: Ni fyddwn yn caniatáu i'r rheini sy'n ceisio achosi niwed ailgydio yn y gymuned hon.

"Os ydych chi'n dioddef unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, rhowch wybod i ni drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:

"Mae'n galonogol iawn gweld y cynnydd a gafwyd hyd yn hyn diolch i’r holl waith gan Heddlu De Cymru, timau'r cyngor, ein partneriaid, a'r bobl leol.

"Mae arwyddion cadarnhaol eraill hefyd. Rydym wedi bod yn gweithio i lanhau a gwella'r ardal ac mae hyb Cyffordd Dyfaty, a agorwyd ym mis Mehefin, eisoes wedi bod yn llwyddiant go iawn.

"Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi siarad â llawer iawn o bobl, grwpiau a busnesau o'r ardal leol am yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae'r ymgysylltu hynny yn rhan hollbwysig o'r gwaith hwn ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd gan aelodau o’r gymuned.

Wedi dweud hynny, nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch y gwaith hwn. Megis dechrau mae'r gwaith o hyd, ac mae llawer mwy i'w wneud. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r heddlu, ein partneriaid a thrigolion i adeiladu ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni'n barod a gwneud gwahaniaeth parhaol i ardal Dyfaty."

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.