Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu ar ôl cyfaddef iddo ddwyn o siopau a thrin nwyddau yr oedd yn gwybod eu bod wedi'u dwyn.
Aeth Wayne Rogers, 43 oed, o ganol y ddinas, i mewn i Ann Summers, yn Whitewalls, ar 8 Ebrill gan ddwyn dillad isaf gwerth £64. Dychwelodd i'r un siop ar 11 Ebrill a dwyn saith set o ddillad isaf gwerth £77. Yr un diwrnod, targedodd Slaters ar Princess Way, gan ddwyn pedwar crys gwerth £140.
Gorchmynnwyd iddo dalu cyfanswm o £282 o iawndal i'r siopau a chafodd ei garcharu am 12 wythnos.
Ym mis Hydref, plediodd Rogers hefyd yn euog i drin nwyddau wedi'u dwyn ar ôl derbyn pâr o esgidiau rhedeg Nike yr oedd yn gwybod eu bod wedi'u dwyn.
Heddiw, mae wedi ei ddedfrydu i bedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Emyr Price:
"Mae taclo dwyn o siopau yng nghanol ein dinas yn flaenoriaeth bwysig i dîm plismona’r gymuned yn y Ddinas.
"Yn anffodus, mae Wayne Rogers wedi parhau i droseddu a chymryd rhan mewn troseddau, heb feddwl am y niwed y mae hyn yn ei achosi i fusnesau yn y ddinas."