Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o gyflawni nifer o droseddau rhywiol yn erbyn plant yn y gorffennol.
Daeth Matthew Bailey, 37 oed o ardal Bôn-y-maen, i sylw'r heddlu pan gysylltodd un o'i ddioddefwyr yn 2023 i roi gwybod am droseddu Bailey - tua 20 mlynedd ar ôl i'r gamdriniaeth ddechrau digwydd.
Nodwyd bod Bailey wedi cam-drin dioddefwr arall hefyd.
Cafwyd Bailey yn euog o ddau gyhuddiad o anwedduster difrifol yn erbyn merch dan 16 oed, dau gyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol â merch dan 13 oed, cyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn dan 13 oed, a chyhuddiad o achosi merch dan 13 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar..
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Stuart Alban:
“Cyflawnodd Matthew Bailey droseddau erchyll yn erbyn dwy ferch dan 10 oed.
"Yr oedran hwnnw, ni ddylai’r dioddefwyr fod wedi gorfod poeni am unrhyw beth heblaw mynd i'r ysgol a chwarae gyda'u ffrindiau. Cymerodd Matthew Bailey eu blynyddoedd mwyaf diniwed oddi wrthynt.
"Roedd y dioddefwyr yn eithriadol o ddewr yn rhoi gwybod am droseddau Matthew Bailey. Rydym yn cydnabod hynny ac yn diolch iddynt, ac yn gobeithio y byddan nhw’n teimlo’n rhydd o'r diwedd o'r pwysau a'r faich maen nhw wedi’u teimlo cyhyd, gan wybod bod y dyn peryglus hwn yn y carchar.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a riportio digwyddiadau o'r math.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Ceir cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.