Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio.
Gwnaeth Damien Samuel, 44 oed o Bort Talbot, ymosod ar y dioddefwr benywaidd ym mis Rhagfyr 2022.
Plediodd Samuel yn ddieuog i un cyhuddiad o drais ym mis Mawrth 2025, ond cafwyd ef yn euog ym mis Medi yn dilyn treial yn Llys y Goron Abertawe.
Mae ef bellach wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar. Mae'n destun gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am 20 mlynedd, a bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ryan Blackburn:
"Gwnaeth Damien Samuel fanteisio ar ei ddioddefwr cyn gofyn iddi gadw'n dawel am yr hyn yr oedd wedi'i wneud - tystiolaeth glir ei fod yn gwybod bod ei weithredoedd yn anghyfreithlon.
"Mae'r dioddefwr wedi dangos dewrder aruthrol wrth ddod ymlaen yn gyflym a rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn wnaeth Damien Samuel. Yna cafwyd ymchwiliad trylwyr, sydd wedi arwain at ei ddyfarnu'n euog.
"I unrhyw un arall sydd wedi dioddef trosedd rywiol, dylai'r achos hwn fod yn enghraifft galonogol y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfiawnder os byddwch yn riportio'r hyn a ddigwyddodd i'r heddlu."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth ar gael yma.