Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ei ran yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B.
Cafodd Gavin Smith, 44 oed o ardal Pont-lliw, ei arestio ym mis Mai mewn cysylltiad â throsedd arall. Wrth iddo gael ei arestio, atafaelodd swyddogion eitemau yr oedden nhw’n credu mai cyffuriau Dosbarth A ac arian oedden nhw, ymhlith eitemau eraill o'i eiddo.
Plediodd Smith yn euog i'r cyhuddiadau o fod â chocên, psilocin a chetamin yn ei feddiant, ymwneud â chyflenwi canabis, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a dau gyhuddiad o fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant (arian parod a chryptoarian) ar 23 Medi.
Newidiodd ei ble o ddieuog i euog i ail gyhuddiad o gynllwynio i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur Dosbarth A yn dwyllodrus hefyd.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis yn y carchar.


Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
"Ni ddysgodd Gavin Smith ddim o'r gwerthwyr cyffuriau di-ri o'i flaen sydd wedi cael eu hanfon i'r carchar, a bydd ef nawr yn dilyn yn ôl eu traed.
"Dyma ddedfryd sylweddol sy'n rhoi llawer o foddhad, ac mae’n dangos yn union beth fydd yn digwydd os ydych chi'n dewis ymwneud â chyffuriau Dosbarth A. Gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn atal pobl eraill sy'n rhan o'r fasnach gyffuriau ac yn agor eu llygaid i'r niwed mae'r cyffuriau hyn yn ei achosi i'n cymunedau."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu os oes well gennych chi, gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.