Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl recordio ei hun yn perfformio gweithred rywiol gyda menyw heb ei chaniatâd.
Roedd David Novac, 34 oed, sydd hefyd yn defnyddio'r enwau Teodor ac Ahmed, yn gwybod nad oedd y dioddefwr yn cydsynio iddo recordio'r weithred pan wnaeth y recordiad ym mis Mai.
Ar 7 Hydref, newidiodd Novac ei ble i gyhuddiad o voyeuriaeth o ddieuog i euog. Mae ef wedi cael ei ddedfrydu i bum mis yn y carchar. Mae'n ofynnol iddo gofrestru gyda'r heddlu yn unol â Deddf Troseddau Rhywiol 2003 am gyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Claire Davies:
"Dyma achos sydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cydsyniad. Nid yw byth yn iawn cymryd rhan mewn unrhyw fath o weithred rywiol pan nad yw'r ddau barti dan sylw wedi rhoi eu caniatâd.
"Gall achosion o voyeuriaeth adael y dioddefwr ag ymdeimlad o fod yn destun cam-drin a chael effaith niweidiol barhaol ar ei les meddyliol.
"Gobeithio bydd y dioddefwr yn yr achos hwn yn gallu goresgyn y digwyddiad hwn yn feddyliol a symud ymlaen gyda'i bywyd ar ôl pennu'r ddedfryd hon."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth ar gael yma.