Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth dyn o Lundain frathu heddwas wrth iddo gael ei arestio am ei rôl yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Abdullah Saed, 25 oed, o Penge, ei arestio ar Stryd Matthew yn Waun Wen, Abertawe ar 31 Mawrth eleni ar ôl i swyddogion ei stopio tra roedd yn meddu ar fag siopa gwyn ac yn ceisio cael mynediad i adeilad.
Roedd gan Saed allwedd i gerbyd a oedd, pan gafodd ei chwilio, yn cynnwys pedwar bag o gocên, sawl bag o ganabis gwerth cyfanswm o 236 gram, arian parod a ffôn. Ceisiodd Saed daflu'r allwedd i'r cerbyd i ffwrdd wrth gael ei arestio.
Plediodd Saed yn euog i feddu ar gocên a chanabis gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ymwneud â chyflenwi cocên a chanabis ac ymosod ar weithiwr brys.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 32 mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Amy Joseph:
"Roedd hi'n amlwg bod Abdullah Saed yn Abertawe gyda'r unig bwrpas o lenwi'r strydoedd â'i gyffuriau Dosbarth A a B.
"Pan gafodd ei ddal wrthi, gwnaeth Saed - yr oedd ganddo glefyd heintus yn ôl pob sôn - frathu'r swyddog; gweithred warthus na wnaeth ef ddangos unrhyw edifeirwch o gwbl amdani yn ystod yr ymchwiliad.
"Mae'n bleserus felly ei fod wedi cael ei roi yn y carchar."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grwp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.