Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe a dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael eu carcharu ar ôl i'r heddlu ddarganfod eu rhan yn y fasnach cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Andrew Flipping, 48 oed o Rydaman, ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi ar ôl i swyddogion ei weld mewn cerbyd wedi'i barcio y tu allan i eiddo yn Hafod ym mis Awst.
Cafodd Paul Martin, 58 oed o Hafod, ei stopio gan swyddogion o'r Tîm Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol ychydig ar ôl gadael y cerbyd. Canfuwyd bod ganddo ddwy owns o heroin a dwy owns o grac cocên yn ei feddiant. Cafodd ei arestio am fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Y mis diwethaf, plediodd Flipping yn euog i gyflenwi cocên a heroin. Plediodd Martin yn euog i fod â chocên a heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Mae Flipping wedi cael ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar yr wythnos hon. Mae Martin wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd yr Arolygydd Richard George o'r tîm Ymchwilio i Droseddau Difrifol a Chyfundrefnol:
"Roedd Andrew Flipping a Paul Martin yn ymwybodol eu bod yn cyflawni trosedd drwy ddelio cyffuriau.
"Mae'n debygol y byddai'r cyffuriau Dosbarth A hyn wedi cael eu gwerthu i berson arall, ac yna y byddai rhywun arall wedi eu cymryd yn y pen draw, gan achosi gofid a niwed aruthrol i'r person hwnnw, ei deulu a'i gymuned.
"Mae cyffuriau Dosbarth A yn bla ar ein cymunedau ac mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch. Os ydych chi'n cymryd rhan yn y gweithgarwch anghyfreithlon hwn, byddwn yn eich ymlid â holl rym y gyfraith ac yn eich dwyn gerbron y llysoedd."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu, os byddai’n well gennych chi, gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw. Cysylltwch ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.