Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a'i bartner wedi cael eu carcharu ar ôl i’r heddlu ganfod bod y ddau wedi bod yn rhan o drosedd Adran 18 a gyflawnwyd yn erbyn cyn-bartner y fenyw yn Abertawe ym mis Awst.
Ymosododd Craig Godfrey, 36 oed o Waun Wen, ar y dioddefwr â chyllell a'i adael â rhwygiad i ochr chwith ei wddf yn dilyn yr ymosodiad ar Ffordd Sain Helen.
Yn ystod yr ymosodiad, gwnaeth Michaela Nicholls, 34 oed o Ystradgynlais ym Mhowys, ddefnyddio tennyn ci i anelu ergyd at y dioddefwr. Dioddefodd y dyn anafiadau difrifol dan ddwylo’r ddau ymosodwr.
Plediodd Godfrey yn euog i Adran 18 clwyfo'n fwriadol a bod â llafn cyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ar 23 Medi.
Plediodd Nicholls yn euog i Adran 18 clwyfo'n fwriadol a bod ag arf ymosodol yn ei meddiant mewn man cyhoeddus.
Cafodd Godfrey ddedfryd estynedig o ddeg mlynedd yn y carchar. Mae Nicholls wedi cael ei dedfrydu i bedair blynedd a bydd yn treulio cyfanswm o bum mlynedd a chwe mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Thomas Richardson:
"Roedd hwn yn ymosodiad brawychus ar fore haf, pan fyddai llawer o bobl ar Ffordd Sain Helen wedi bod yn dechrau yn y gwaith.
"Mae'n hynod ffodus na chafodd y dioddefwr ei ladd.
"Mae Stephen Godrey yn ddyn peryglus tu hwnt a oedd yn ceisio achosi cymaint o niwed i'r dioddefwr ag y gallai, ac fe wnaeth Michaela Nicholls chwarae rhan sylweddol yn yr ymosodiad hefyd. Mae'r ddau yn llawn haeddu'r dedfrydau llym a gawsant."