Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl i swyddogion ei stopio a dod o hyd i Kinder Egg llawn cocên.
Cafodd Corey Sutton, 19 oed o Donyrefail, ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher 8 Gorffennaf yn Llys y Goron Abertawe. Cafwyd Sutton yn euog o ymwneud â chyflenwi cocên, bod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, a bod â chocên yn ei feddiant.
Daw hyn ar ôl i swyddogion, a oedd ar batrôl ar y pryd, sylwi ar gar yr oeddent yn gwybod ei fod yn gysylltiedig â delio cyffuriau. Aeth swyddogion i siarad â Sutton, ac fe gafodd ei chwilio o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Wrth chwilio’r dyn, daeth swyddogion o hyd i Kinder Egg yn cynnwys bagiau bach o gocên.
Ar ôl archwilio ffôn symudol Sutton, daethpwyd o hyd i nifer o negeseuon yn dangos ei fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Adam Lewis: "Cafodd Corey Sutton ei ddal wrth geisio gwerthu cyffuriau ar strydoedd y Rhondda.
“Bydd yn mynd i'r carchar am bron i dair blynedd yn awr, sy’n bris uchel i'w dalu ac yn dangos nad yw delio cyffuriau Dosbarth A yn werth y risg. Bydd ein swyddogion yn eich dal chi a byddwch chi'n mynd i'r carchar."