Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw wedi cael ei charcharu ar ôl i swyddogion ddarganfod ei bod yn ymwneud â chyflenwi cocên.
Cafodd Nicole Locke, 33 oed o Donypandy, ei dedfrydu i bum mlynedd a chwe mis yn y carchar ar ôl iddi gael ei heuogfarnu.
Cafodd Locke ei dedfrydu ddydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026 yn Llys y Goron Merthyr Tudful, lle plediodd yn euog i gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên, cyhuddiad o ymwneud â chyflenwi crac cocên, a chaffael/defnyddio eiddo troseddol.
Mae'r achos yn deillio o ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i linell gyffuriau a oedd yn gweithredu yn y Rhondda. Ar ôl i swyddogion adnabod rhif yr oeddent yn gwybod ei fod yn gysylltiedig ag un o’r llinellau cyffuriau hyn, llwyddwyd i gysylltu’r rhif â Locke.
Tynnwyd sylw swyddogion o'n huned Troseddau Cyfundrefnol Difrifol at gyfeiriad yn Nhonypandy, ac ar ôl mynd i’r eiddo ym mis Mehefin 2026, daethant o hyd i Locke yn un o'r ystafelloedd gwely. Atafaelwyd ffôn Locke wrth iddi gael ei harestio, a gwelwyd mai rhif ffôn Locke oedd yn gysylltiedig â’r llinell gyffuriau.
Daeth swyddogion o hyd i fag plastig gwyn yn cynnwys powdr gwyn a £155 mewn arian parod hefyd. Chwiliwyd car Locke a daethpwyd o hyd i £180 mewn arian parod, bag yn cynnwys powdr gwyn, ynghyd â Kinder Egg yn cynnwys powdr gwyn.
Dywedodd y Cwnstabl Justyn Lewis: “Mae'r cyffuriau anghyfreithlon hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i’r bobl ymhellach i lawr y gadwyn sy'n eu defnyddio, heb sôn am eu teuluoedd, eu ffrindiau a'r gymuned yn ehangach.”
“Byddwn yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth sydd gennych am werthu neu ddefnyddio'r cyffuriau hyn, a byddwn yn mynd i’r afael â llinellau cyffuriau sy’n gweithredu ar draws yr ardal.”