Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma gam nesaf y cynlluniau i atgyfnerthu plismona a gwaith adfywio yng nghanol tref Pontypridd.
Mae'r hen orsaf heddlu ar Heol Berw bellach wedi cau, a bydd yn trosglwyddo i feddiant y Cyngor yn rhan o gynlluniau ehangach i fwrw ymlaen ag ailddatblygiad mawr yng nghanol y dref. Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i wasanaethu Pontypridd o safle newydd, mwy gweladwy a hygyrch ar Stryd y Taf.

Mae gwaith ar yr orsaf newydd ar Stryd y Taf eisoes yn mynd rhagddo. Bydd ei lleoliad yng nghanol siopau'r dref yn sicrhau bod swyddogion yn agosach at galon y dref, gan ei gwneud hi'n haws i drigolion, busnesau ac ymwelwyr siarad â thimau plismona lleol, ceisio cymorth a rhoi gwybod am bryderon.
Mae Heddlu De Cymru wedi pwysleisio na fydd ymateb yr heddlu lleol yn lleihau yn ystod y cyfnod pontio. Bydd swyddogion yn parhau i ymateb i alwadau brys a rhai nad ydyn nhw’n frys, bydd timau cymdogaeth yn parhau i fod yn weithgar ym Mhontypridd a'r cyffiniau, a bydd technoleg symudol yn helpu swyddogion i dreulio rhagor o amser yn y gymuned.
Hyd nes y bydd gorsaf newydd Pontypridd yn agor, gall unrhyw un sydd angen siarad â'r heddlu wyneb yn wyneb fynd i Orsaf Heddlu Tonysguboriau, 1/3 Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, CF72 8AJ. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Mae timau'r heddlu a oedd wedi'u lleoli ar Heol Berw gynt wedi symud i Dŷ Trevithick, hen adeilad y Cyngor, sy'n darparu mwy o le a chapasiti ar gyfer timau gweithredol. Y safle fydd pencadlys rhanbarthol newydd ardal blismona Morgannwg Ganol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Rees, Comander yr Uned Reoli Sylfaenol: "Mae Pontypridd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Mae newid lleoliad yn ymwneud â sicrhau bod ein swyddogion yn y lleoedd cywir, a bod ganddynt y cyfleusterau cywir i wasanaethu'r gymuned nawr ac yn y dyfodol.
"Mae adeilad Heol Berw wedi gwasanaethu Pontypridd a’r ardal ehangach ers blynyddoedd lawer, ond mae plismona wedi newid ac mae angen cyfleusterau modern a hyblyg arnon ni sy’n cefnogi plismona lleol gweladwy ac ymatebol.
“Bydd ein swyddogion yn parhau i fod mas yng nghanol y dref, yn siarad â thrigolion a busnesau, yn ymateb i alwadau ac yn gweithio gyda phartneriaid i gadw pobl yn ddiogel. Bydd yr orsaf newydd ar Stryd y Taf yn ategu'r presenoldeb lleol yma ac yn ei gwneud hi'n haws i gael mynediad aton ni.”
I'r Cyngor, mae caffael gorsaf heddlu Heol Berw a safle'r maes parcio cyfagos yn creu cyfle pwysig i gynorthwyo'r gwaith parhaus o adfywio canol tref Pontypridd.
Mae disgwyl i'r cyfnod dymchwel ddechrau yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae cwmni Prichards wedi cael ei benodi’n gontractwr a bydd manylion pellach am amseru, rheoli traffig a chyngor parcio yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd cyn gynted ag y bydd y trefniadau wedi’u cadarnhau. Bydd Maes Parcio Heol Berw yn cau pan fydd y gwaith dymchwel yn dechrau.
Mae'r ailddatblygiad ehangach yn parhau i gael ei gynllunio, gyda dewisiadau'n cynnwys mannau cyhoeddus gwell, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, yr Aelod o'r Cabinet dros Adfywio a Thai yn Rhondda Cynon Taf: "Dyma adeg bwysig i Bontypridd. Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cadw presenoldeb gweladwy a hygyrch yng nghanol y dref, wrth i'r Cyngor fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailddatblygu safle allweddol.
“Rydyn ni'n gwybod y bydd trigolion a busnesau eisiau gwybodaeth glir am yr hyn sy’n digwydd nesaf. Byddwn ni'n parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned mewn perthynas â threfniadau dymchwel, cyngor parcio a'r cynigion hirdymor wrth iddyn nhw ddatblygu. Ein nod yw cyflawni cynllun sy'n cefnogi canol y dref, yn gwella cysylltedd ac yn gwneud y defnydd gorau o'r safle pwysig yma.”
Dywedodd Emma Wools, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru: "Dyma enghraifft wych arall o'r cyngor a Heddlu De Cymru'n gweithio ar y cyd i wella'r amwynderau cyhoeddus ym Mhontypridd, wrth alluogi'r heddlu i adleoli'n agosach at y cyhoedd a bod yn fwy hygyrch iddyn nhw hefyd. Drwy gyfnewid yr adeiladau cyhoeddus yn y modd yma, mae modd sicrhau'r gwerth gorau wrth gyflawni'r gwelliannau y mae'r dref a threfn plismona'r ardal eu hangen yn fawr. Rwy'n edrych ymlaen at agor gorsaf canol y dref yn ddiweddarach eleni.”
