Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gyfaddef troseddau rhywiol yn erbyn tri dioddefwr gwahanol.
Gwnaeth Tyrone Barnett, 23 oed, o Lansawel, gyflawni ei droseddau rhwng 2021 a 2022.
Mae Barnett wedi cael ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o dreisio ac un o ymosod ar fenyw 13 oed a hŷn drwy dreiddio.
Cafodd ddedfryd estynedig o 21 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Carys Davies: "Nid oedd ymddygiad Tyrone Barnett tuag at y dioddefwyr hyn yn ddigwyddiad untro.
“Gwnaeth fanteisio arnyn nhw a diystyru eu lles yn gyfan gwbl.”
"Rydym yn canmol dewrder y dioddefwyr wrth ddod ymlaen i ddatgelu trosedd Tyrone Barnett, ac yn gobeithio eu bod yn cael ymdeimlad o ddiweddglo yn dilyn y profiadau erchyll a gawsant.
"Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef cam-drin rhywiol, gofynnwn i chi ei riportio i'r heddlu heb oedi."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Ceir cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.