Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Atafaelwyd chwe beic modur ac arestiwyd saith o bobl yn dilyn gwaith gan Dîm 2 Uned Plismona Heol y Gorllewin, y Tîm Dronau, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a T1 JFU i fynd i'r afael â nifer o ddigwyddiadau yn ardal Abertawe.
Mae Matthew Davies, 36 oed o Faesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cael ei gyhuddo o yrru tra roedd wedi'i wahardd a defnyddio cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti.
Fe wnaeth swyddogion ymlid beic modur oedd yn defnyddio platiau ffug yn ardal Gorseinon, a chafodd dau fachgen 14 oed eu harestio.
Cafodd dau fachgen 17 oed, o Fôn-y-maen a Phlas-marl, eu harestio ar ôl dwyn beic modur yng nghanol Abertawe. Arestiwyd y ddau ar amheuaeth o ddwyn cerbyd modur a rhodio â chyfarpar dwyn. Cafodd y beic oedd wedi'i ddwyn ei adfer ac atafaelwyd beic Sur-Ron.
Gwnaeth cerbyd oedd o ddiddordeb i swyddogion yn rhan o Ymgyrch Sceptre wrthod stopio ar ôl cael cyfarwyddiadau gan swyddogion, a cheisiodd yrru i ffwrdd drwy ganol dinas Abertawe, gan gyrraedd cyflymder o bron 60mya ar ffyrdd 20mya. Ers hynny, mae James Holt, 45 oed o Dre-gŵyr, wedi pledio'n euog i yrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru tra roedd wedi'i wahardd a heb yswiriant trydydd parti, a gyrru cerbyd modur tra roedd dros y terfyn alcohol cyfreithlon.
Defnyddiwyd cadwyn bigog i stopio dau feic modur heb eu cofrestru a wrthododd stopio i swyddogion o'r Uned Arfau Tanio ym Mhontarddulais, a chafodd y ddau feic eu hatafaelu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro Andrew Hedley:
"Mae'r canlyniadau hyn yn dangos effaith ein gwaith pwrpasol a pharhaus i fynd i'r afael â phobl sy’n defnyddio cerbydau mewn modd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol ledled Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Gan weithio'n agos â'n timau arbenigol, rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i adnabod troseddwyr, tarfu ar weithgarwch troseddol, ac atal cerbydau peryglus rhag cael eu defnyddio ar ein ffyrdd. Byddwn yn parhau i weithredu ar yr wybodaeth a gawn gan aelodau o'n cymunedau a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rheini sy'n rhoi bywydau pobl eraill mewn perygl."