Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Kian Bateman, o Gaerau, Caerdydd, heddiw (ddydd Gwener 3 Gorffennaf) yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio Shelley ac achosi niwed corfforol yn fwriadol i bartner Shelley sef David Bratcher.
Cafwyd Bateman yn euog yn dilyn treial ym mis Mai 2026.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Trelái ychydig cyn 12.30am ddydd Sadwrn, 27 Medi 2025, yn dilyn adroddiad bod gyrrwr car wedi gwrthdaro â cherddwyr y tu allan i Glwb 4ydd Gwarchodlu Cartref Morgannwg.
Cafodd Shelley Davies, 38 oed, o Gaerau, ei hanafu'n ddifrifol yn ystod y digwyddiad ar ôl iddi gael ei tharo gan y car, ac er iddi gael gofal critigol, bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ddydd Sadwrn, 18 Hydref 2025.
Cafodd ei phartner, David Bratcher, 40 oed, a anafwyd yn ddifrifol hefyd, ei drin yn yr un ysbyty.
Cyfaddefodd Kian Bateman, o Gaerau, Caerdydd, i achosi marwolaeth ac anafiadau drwy yrru'n beryglus, ond gwadodd iddo lofruddio Shelley Davies ac ymgais i lofruddio David Bratcher.
Yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd, cafwyd Bateman, 19 oed, yn euog o lofruddio ac o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Dedfrydwyd Bateman i'r carchar am oes, am gyfnod hyd o leiaf 17 o flynyddoedd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea, o Heddlu De Cymru: "Ar 27 Medi 2025, aeth Shelley Davies, a oedd yn fam i dri o blant, am noson allan i wylio cerddoriaeth fyw mewn clwb cymdeithasol lleol gyda'i phartner David Bratcher, ond cafwyd diwedd-glo trasig i'r noson ar ôl iddi ddioddef anafiadau angheuol.
"Gwnaeth y llys ddarganfod bod Kian Bateman wedi gyrru'n fwriadol tuag at Shelley ac achosi niwed difrifol i David.
"Roedd teulu a ffrindiau Shelley yn ei charu'n fawr ac maen nhw'n gweld ei heisiau'n fawr iawn. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt heddiw fel yr ydym wedi gwneud drwy gydol y cyfnod ofnadwy hwn.
"Hoffem ddiolch i'r holl dystion a wnaeth helpu gyda'r ymchwiliad, cymuned Caerau, yn ogystal â'r tîm erlyn."