Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Yn dilyn ei heuogfarnau diweddar am droseddau dwyn o siopau, rhoddwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) am ddwy flynedd i Morgan Adney yn Llys Ynadon Caerdydd ar 1 Mehefin.
Cyfaddefodd Adney, o Butetown, ei bod wedi dwyn nwyddau gwerth £50 o Tesco yn Sgwâr Canolog, canol dinas Caerdydd, a’i bod wedi ymosod ar swyddog diogelwch.
Cafodd ei charcharu am bedair wythnos hefyd.
Yn rhan o'r Gorchymyn, rhaid i Adney beidio â mynd i mewn i unrhyw siopau Greggs neu Tesco yng nghanol dinas Caerdydd, na’r siopau Co-Op ar Stryd Tyndall a Heol Dumballs.
Nod y CBO yw atal troseddu ac amddiffyn y gymuned, gweithwyr lleol, ac aelodau'r cyhoedd rhag gofid a tharfu parhaus a niwed posibl.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos â manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion fel Morgan Adney.
Gall dwyn o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siop a manwerthwyr.
Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â dwyn o siopau a chefnogi'r diwydiant.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac achosion o dorri gorchmynion.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng