Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddal yn delio crac cocên a heroin.
Cafodd Craig Jones, 41 oed o Gaerdydd, ei ddedfrydu i tri mlynedd yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Roedd swyddogion cymdogaeth ar batrôl yn Sgwâr Callaghan, Butetown, pan wnaethant amau eu bod wedi gweld Jones yn cymryd rhan mewn dêl cyffuriau.
Ceisiodd Jones guddio rholyn yn ei drowsus ar ôl i swyddogion ei ddal, cyn ei daflu ar y llawr. Atafaelwyd cyfanswm o 12 rholyn – ac fe gadarnhaodd Jones mai crac cocên a heroin oedd yn y rholiau hyn.
Wrth ddadansoddi data ei ffôn symudol, daethpwyd o hyd i negeseuon oedd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a chafodd Jones ei arestio.
Pan aeth swyddogion i chwilio ei ystafell yn ddiweddarach, daethant o hyd i 36 rholyn o grac cocên a heroin oedd wedi cael eu cuddio mewn rhôl cig moch mewn pot plastig.
Dywedodd yr Arolygydd Gareth Handy:
“Mae ein timau cymdogaeth yn cynnal patrolau bob dydd er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel a threchu troseddau. Dim ond un enghraifft o sut mae Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Bae Caerdydd yn parhau i darfu ar gyflenwi cyffuriau yw hyn.
“Mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael effaith ddinistriol ar y bobl sy'n eu defnyddio, yn ogystal â'u teuluoedd, eu ffrindiau, a'r gymuned yn ehangach. Yn haeddiannol iawn, bydd Jones yn treulio cyfnod dan glo yn awr.”
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.