Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu hanfon i sefydliad troseddwyr ifanc ac mae bachgen wedi cael gorchymyn atgyfeirio ieuenctid am eu rhan mewn ymosodiad treisgar ac achos o ladrata ym Mhort Talbot.
Gwnaeth y dioddefwr dreulio sbel yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar 26 Tachwedd y llynedd, a bu'n rhaid defnyddio glud i drin anaf i gefn ei ben.
Plediodd Junior Evans, 19 oed o Bort Talbot, yn euog i ladrad ac ymosod gan achosi gwir niwed corfforol ar ôl ymosod ar y dioddefwr a dwyn ei gerdyn banc. Cafodd ei ddedfrydu i sefydliad troseddwyr ifanc am ddwy flynedd a chwe mis ac mae wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am bum mlynedd. Mae'n rhaid iddo dalu gordal dioddefwr o £228 hefyd.
Plediodd Kurtis James, 19 oed, heb gartref sefydlog, yn euog i ladrad a dal plentyn mewn gofal rhag yr unigolyn sy’n gyfrifol amdano heb awdurdod cyfreithlon. Cafodd ei ddedfrydu i sefydliad troseddwyr ifanc am dair blynedd a dau fis ac mae wedi cael gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am gyfnod o bum mlynedd.
Plediodd bachgen 17 oed o Gwmbrân yn euog i ymosod gan achosi gwir niwed corfforol a chyfaddefodd hefyd ei fod wedi torri dau o amodau ei fechnïaeth. Mae wedi cael gorchymyn atgyfeirio ieuenctid am gyfnod o ddeuddeg mis a gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am flwyddyn.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ria Price:
"Dyma achos annerbyniol o drais anarchaidd gan dri dyn ifanc llwfr yn erbyn unigolyn diamddiffyn.
"Does dim lle mewn cymdeithas i bobl fygythiol sy'n ymddwyn fel hyn.
"Roedd fy stumog yn troi wrth wylio deunydd fideo o'r digwyddiad yn ystod yr ymchwiliad. Mae'n hynod ffodus na chafodd y dioddefwr anafiadau mwy difrifol byth."