Stamp amser presennol: 18/07/26 22:05:56
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Lansio Cynllun Haf Cymunedau a Phartneriaethau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot
Cyhoeddwyd: 12:00 15/07/2026
CHB Dyfatty 2.jpg
Clear Hold Build, Dyfatty

 

Bydd rhaglen eang o fentrau diogelwch cymunedol yn cael ei chyflwyno ledled ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yr haf hwn, gan ddwyn Heddlu De Cymru, awdurdodau lleol, partneriaid diogelwch cymunedol a sefydliadau yn y trydydd sector ynghyd i atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelu pobl sy'n agored i niwed, a lleihau'r pwysau ar swyddogion ymateb rheng flaen.

Mae Cynllun Mentrau'r Haf yn amlinellu dull gweithredu cydgysylltiedig sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag ardaloedd sy'n profi problemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais ymhlith pobl ifanc, troseddau manwerthu, beiciau oddi ar y ffordd, trais yn erbyn menywod a merched, niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau a phryderon ynglŷn â diogelwch yn y gymuned ledled yr Uned Reoli Sylfaenol. Bydd ymgyrchoedd wedi'u targedu a gweithgarwch mewn partneriaeth mewn lleoliadau allweddol, gan gynnwys canol dinasoedd, ardaloedd arfordirol, mannau problemus yn y gymdogaeth ac ardaloedd sy'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.

Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais arbennig ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd prosiectau dargyfeirio pobl ifanc, gan gynnwys Premier League Kicks a menter 'Tackle After Dark' gan sefydliad Y Gweilch yn y Gymuned, yn cynnig cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc drwy gydol yr haf. Ym Mhort Talbot, bydd y prosiect yn cynnig sesiynau wythnosol am ddim i bobl ifanc rhwng 8 a 16 oed, gan ddefnyddio chwaraeon a sesiynau mentora i annog pobl i gymryd dewisiadau cadarnhaol, meithrin gwell perthnasoedd yn y gymuned, a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae partneriaid hefyd yn cyflwyno prosiectau cymunedol arloesol gyda'r nod o fynd i'r afael â phroblemau tymhorol yn ardal marina Abertawe ac ar lan y môr. Mae'r rhain yn cynnwys ymgyrchoedd ymwybyddiaeth amgylcheddol, mentrau casglu sbwriel, gweithgareddau celf ar y traeth, prosiectau arwyddion cymunedol, a gweithgareddau dargyfeiriol wedi'u cynllunio i ymgysylltu â phobl ifanc, cynyddu balchder mewn cymunedau lleol a lleihau ymddygiad niwsans.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynllun Clirio, Dal, Adeiladu Dyfaty, sydd eisoes wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, bydd gweithgareddau partneriaeth pellach yn cael eu cynnal i wella diogelwch cymunedol a chefnogi pobl sy'n agored i niwed y mae camddefnyddio sylweddau a'r niwed cysylltiedig wedi effeithio arnynt. Bydd menter newydd "Llwybrau Clir, Lleoedd Diogel" yn cyfuno allgymorth, gwelliannau amgylcheddol, patrolau i dawelu meddwl, a gwasanaethau cymorth i greu cymdogaethau mwy diogel ac annog pobl i ddefnyddio mannau cyhoeddus mewn ffordd gadarnhaol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dean Evans:

"Nod cyffredinol y cynllun haf yw atal problemau cyn iddynt waethygu, amddiffyn aelodau bregus o'n cymunedau a gwella gwaith partneriaeth wrth ddatrys problemau. Trwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnig dewisiadau amgen cadarnhaol, nod y mentrau hyn yw cyflawni canlyniadau cadarnhaol i gymunedau lleol drwy wella lles unigolion, ennyn hyder y gymuned, a sicrhau haf mwy diogel a phleserus i drigolion ac ymwelwyr."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Alyson Anthony:

"Trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid amrywiol, gan gynnwys Heddlu De Cymru, byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc ledled Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous ar draeth Abertawe a fydd yn rhoi cyfleoedd cadarnhaol a chymorth cyson i bobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol."

Dywedodd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod o'r Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol: 

"Rydym yn falch o gefnogi Cynllun Mentrau'r Haf ochr yn ochr â Heddlu De Cymru a'n partneriaid diogelwch cymunedol ehangach. Bydd y prosiectau dargyfeirio ieuenctid yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wrth helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau a all effeithio ar gymunedau yn ystod misoedd yr haf.

"Mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol eisoes yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau partner er mwyn mynd i'r afael â phryderon am ddiogelwch cymunedol. Drwy barhau i weithio ar y cyd, gallwn helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel a gwneud Castell-nedd Port Talbot yn lle gwell byth i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr."

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.