Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Heddlu De Cymru wedi buddsoddi mewn arfwisg amddiffynnol newydd ar gyfer ei holl gŵn heddlu pwrpas cyffredinol, gan atgyfnerthu ei ymrwymiad i ddiogelwch a lles ei anifeiliaid gweithiol amhrisiadwy.
Mae'r offer newydd yn cynnig amddiffyniad balistig uwch ac mae'n gam sylweddol ymlaen wrth ddiogelu cŵn heddlu, sy'n chwarae rhan hanfodol mewn plismona rheng flaen ar draws y llu.
Mae'r fenter wedi cael ei harwain gan y Rhingyll Nathan Burton, y mae ei waith wedi bod yn allweddol wrth gwblhau'r prosiect. Mae'r penderfyniad i fuddsoddi yn yr offer arbenigol hwn yn dilyn digwyddiadau ledled y DU, lle mae cŵn heddlu wedi cael eu hanafu wrth gyflawni eu dyletswyddau.
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud y penderfyniad i arfogi pob ci pwrpas cyffredinol â'r amddiffyniad newydd. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn cydnabod y gall fod risgiau ar draws ystod eang o waith ac mae'n sicrhau bod gan bob ci heddlu pwrpas cyffredinol yr un lefel ychwanegol o amddiffyniad wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
Dywedodd y Rhingyll Burton:
"Mae ein cŵn heddlu yn rhan amhrisiadwy o'n gallu gweithredol. Maen nhw'n rhoi eu hunain mewn perygl i amddiffyn y cyhoedd a chefnogi swyddogion. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i'w cadw'n ddiogel wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau."
Mae cŵn heddlu yn cael eu defnyddio'n rheolaidd i olrhain tramgwyddwyr, chwilio am bobl sydd ar goll, a chefnogi swyddogion mewn sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus. Bydd eu rôl yn aml yn eu rhoi mewn perygl, gan wneud eu hamddiffyniad yn ystyriaeth allweddol i'r llu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Simon Belcher:
"Mae lles ein hanifeiliaid gweithiol yn flaenoriaeth i ni. Mae ein cŵn hefyd yn aelodau gwerthfawr o'n teulu plismona. Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i'w diogelwch a'u lles."
Drwy gyflwyno'r arfwisg newydd hon, mae Heddlu De Cymru yn parhau i ddangos ei ymagwedd flaengar at ddiogelu swyddogion a'r cŵn heddlu sy'n eu cefnogi.