Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliwyd ymgyrch amlasiantaethol i dargedu tacsis a bysiau mini yng Nghaerdydd ar 18 Gorffennaf, gyda'r nod o sicrhau bod cerbydau sy'n cludo aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel, yn gyfreithlon, ac yn addas i fod ar y ffordd fawr.
Cwnstabliaeth Wirfoddol Caerdydd a'r Fro oedd yn gyfrifol am arwain yr ymgyrch, a oedd yn cynnwys swyddogion a phartneriaid o Gyngor Caerdydd, Cyngor Casnewydd, Cyngor Bro Morgannwg, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cyllid a Thollau EF, a thimau Diogelwch Cymunedol.
Rhwng 4pm ar 18 Gorffennaf a 2am ar 19 Gorffennaf, cafodd cyfanswm o 103 o gerbydau eu stopio a'u gwirio.

Yn ogystal ag archwilio'r cerbydau, cynhaliodd swyddogion wiriadau i sicrhau bod gyrwyr yn meddu ar y drwydded a'r yswiriant priodol a bod cerbydau yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol.
O ganlyniad i’r ymgyrch, cyflwynodd Heddlu De Cymru bedwar Adroddiad Troseddau Traffig am droseddau sy'n cynnwys gyrru heb yswiriant, teiars diffygiol, a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Cafodd pedwar cerbyd hysbysiad atal oddi wrth eu hawdurdod lleol, gan eu hatal rhag gweithredu fel tacsis nes bod diffygion, gan gynnwys goleuadau a theiars, wedi'u hunioni ac y cynhelir archwiliadau ar y cerbydau eto.
At hynny, rhoddodd awdurdodau lleol gyfanswm o 25 o hysbysiadau rhybuddio ffurfiol ar gyfer materion fel diffyg bathodyn trwydded tacsi neu ddefnyddio'r bathodyn anghywir, goleuadau diffygiol, diffyg pecynnau cymorth cyntaf neu feddu ar becyn sydd wedi dod i ben, diffoddwyr tân sydd wedi dod i ben, a difrod i gorff cerbydau. Bydd angen i'r cerbydau hyn gael eu hail-archwilio.
Cyhoeddodd y DVSA 11 o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer nifer o faterion, gan gynnwys goleuadau diffygiol, breciau diffygiol, a cherbydau sy'n gollwng diesel. Nodwyd hefyd fod un cerbyd yn cael ei yrru heb dreth. Talwyd am y dreth yn y fan a'r lle.
Lansiwyd pedwar ymchwiliad gorfodi gan awdurdodau lleol hefyd, gan gynnwys honiadau o gludo teithwyr heb ddefnyddio mesurydd a chynnig gwasanaethau tacsis i’r cyhoedd heb drwydded.
Cafodd tri cherbyd eu hatafaelu yn ystod yr ymgyrch hefyd, gan gynnwys dau gerbyd oedd yn cael eu gyrru heb yswiriant dilys.
Dywedodd yr Arolygydd Gwirfoddol Benjamin Johns: "Mae'r sawl sy'n defnyddio tacsis a bysiau mini i deithio i mewn ac allan o ardal Caerdydd yn haeddu tawelwch meddwl bod y cerbydau hynny'n cyrraedd y safon gyfreithiol a'u bod yn ddiogel i fod ar y ffordd.
"Mae'r gwaith partneriaeth hwn yn dangos pa mor bwysig yw diogelwch y cyhoedd i ni. Drwy ddefnyddio cyfuniad o adnoddau gwahanol yn ystod yr ymgyrch hon, llwyddwyd i sicrhau bod gyrwyr a'r cerbydau a ddefnyddir i gludo'r cyhoedd yn ddiogel."