Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn a gam-fanteisiodd ar ferch yn ei harddegau a meithrin perthynas amhriodol â hi wedi cael eu carcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Mae'r ddau ddyn o Gaerdydd wedi cael eu dedfrydu am gyflawni troseddau yn erbyn merch yn ei harddegau yn 2021.
Cafodd Azad Ahmed, 50 oed o Grangetown, Caerdydd ei garcharu am 16 mlynedd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o ddau achos o dreisio merch 13-15 oed, un achos o fod yn droseddwr 18 oed neu'n hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol â merch rhwng 13 a 15 oed, ac un achos o drefnu neu hwyluso taith unigolyn arall gyda'r bwriad o gam-fanteisio.
Cafodd Wasee Shikel, 50 oed o'r Sblot, Caerdydd, ei garcharu am 16 mlynedd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o drefnu neu hwyluso taith unigolyn arall gyda'r bwriad o gam-fanteisio.
In her personal statement, the victim said: “I am a victim, and my voice needs to be heard. The words feel inadequate to describe the living hell I endured. But I need you to understand the truth of what it has done to me, and what has come of me.
“I was subjected to horrific things; my body was not my own. It was a tool for their depravity. They have stripped me of everything that made me human. I feel utterly worthless. A shattered shell of the person I once was. Because of them my mind is a constant battlefield of anxiety and depression."
As well as their sentences, both men have been made subject to restraining orders for life, in relation to the victim.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Geraint Higgins: “Rwy'n falch o weld bod y rheibwyr hyn wedi cael eu dedfrydu am eu gweithredoedd erchyll.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at sut mae troseddwyr yn mynd ati i feithrin perthynas amhriodol â’u dioddefwyr, a sut y gallwch chi adnabod yr arwyddion. Yn aml, mae camdrinwyr yn defnyddio tactegau i dynnu sylw eu dioddefwyr, er enghraifft drwy roi anrhegion iddynt er mwyn gwneud iddynt deimlo'n arbennig. Weithiau, bydd y camdriniwr yn eu rhybuddio am beidio â dweud wrth neb am yr anrhegion hyn.
“Nid yw’r arwyddion bod rhywun yn ceisio meithrin perthynas amhriodol bob amser yn amlwg, ond mae patrymau ymddygiad yn gallu bod yn arwydd. Efallai bod gan ddioddefwyr arian neu ddillad a ffonau symudol newydd nad ydynt yn gallu esbonio, neu’n gwrthod egluro. Maen nhw'n gallu ymddangos yn ofidus neu fod â’u pen yn eu plu heb reswm amlwg. Mae'n bosibl hefyd y byddan nhw'n mynd ar goll am gyfnodau, a dechrau bod yn gyfrinachol gyda'u dyfeisiau neu ynglŷn â sut maen nhw'n treulio'u hamser.
“Os ydych chi'n poeni bod rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â chi neu rywun arall, cysylltwch â ni. Byddwn yn gwrando ac yn eich cymryd o ddifrif. Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn rhoi gwybod i'r heddlu, siaradwch ag oedolyn y gellir ymddiried ynddo neu elusen sy'n gallu eich helpu.
“Gan gofio hynny, hoffwn ddiolch i’r dioddefwr a’i chanmol am ei dewrder a'i hamynedd drwy gydol y broses anodd hon. Diolch i'w dewrder, mae dau ysglyfaethwr peryglus bellach dan glo ac ni fyddant yn gallu niweidio neb arall. Os yw'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnoch, cysylltwch â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100356462."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.