Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl cyfaddef achos o ladrata ym Meddau.
Cafodd Conor Watts, 32 oed, ac Iwan Trewartha, 19 oed, y ddau ohonynt o'r Rhondda, eu dedfrydu ddydd Llun 29 Mehefin yn Llys y Goron Caerdydd. Roedd Watts wedi pledio'n euog o'r blaen i ladrad, bod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflawni trosedd dditiadwy a dau gyhuddiad o roi gwenwyn / sylwedd gwenwynig gyda'r bwriad o achosi anaf. Cafodd Trewartha ei ddedfrydu am ladrad a dau gyhuddiad o fod ag arf tanio ffug yn ei feddiant.
Aeth swyddogion i gyfeiriad ym Meddau ddydd Gwener 27 Mawrth 2026, ar ôl derbyn adroddiadau am aflonyddwch. Yn dilyn ymchwiliad, llwyddodd swyddogion i gadarnhau mai Watts oedd wedi mynd i mewn i'r eiddo drwy ddrws cefn ac ymosod ar y bobl y tu mewn. Gwnaeth e chwistrellu rhywun â sylwedd anhysbys cyn ei fygwth ag arf tanio.
Yna, dygodd £1000 mewn arian parod a choffor o’r tŷ cyn rhedeg i ffwrdd. Daeth swyddogion o hyd i’r coffor mewn llwyni yng ngardd cymydog y bore wedyn. Bu Trewartha yn yr eiddo hefyd ac, ar ôl chwilio, fe ddaethom o hyd i flwch dryll aer gwag a oedd yn cyfateb i’r un gafodd ei atafaelu o leoliad y lladrad.
Mae Watts wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd a chwe mis yn y carchar. Mae Trewartha wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a naw mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Samantha Williams:
“Gall lladrad gael effaith ddinistriol ar y rhai sy'n ei ddioddef, ac ni ddylai neb orfod dioddef trais wrth fyw eu bywydau bob dydd.
"Diolch i ymateb cyflym y tîm a chydweithrediad a dewrder y dioddefwyr, llwyddwyd i sicrhau dedfryd o garchar i Watts a Trewartha am gyfnod sylweddol.”