Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys bod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi.
Gwnaeth swyddogion mewn car heddlu heb ei farcio sylwi ar Zubair Mehdi, 27 oed o Mayhill, yn mynd i mewn i gerbyd ac eistedd yn sedd y gyrrwr tra roeddent ar batrôl. Roedd y swyddogion yn gwybod nad oedd ganddo drwydded na’r yswiriant priodol.
Er i Mehdi gydweithredu i ddechrau wrth i swyddogion ei arestio, ceisiodd wthio ei ffordd heibio swyddogion mewn ymgais i ddianc, gan ddifrodi radio un o’r swyddogion wrth wneud hynny. Fodd bynnag, gwnaeth swyddogion lwyddo i ddal Mehdi a dod o hyd i symiau o bowdr gwyn o dan sedd y gyrrwr wrth chwilio ei gerbyd.
Plediodd Mehdi yn euog i fod â chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, achosi difrod troseddol i eiddo, defnyddio cerbyd modur heb yswiriant trydydd parti, a gwrthsefyll cwnstabl a oedd wrthi’n cyflawni ei ddyletswydd.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
"Mae'n amlwg bod Zubair Mehdi yn diystyru’r gyfraith yn gyfan gwbl. Hyd yn oed pan gafodd ei drwydded yrru ei thynnu, penderfynodd fynd y tu ôl i'r llyw beth bynnag.
Y math hwnnw o ddirmyg tuag at wneud y peth iawn yw'r union beth sydd wedi arwain at ei gyfnod hir yn y carchar. Mae’n siŵr ei fod yn meddwl erbyn hyn y dylai fod wedi dysgu ei wers cyn cyrraedd y pwynt hwn.”