Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef i ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Cafodd Flynn Johnson Andrews, 28 oed o Hafod, ei adnabod tra roedd swyddogion yn lawrlwytho data o ffôn symudol nad oedd yn gysylltiedig ag ef. Tynnwyd eu sylw at negeseuon Snapchat a oedd yn dangos bod Johnson Andrews yn gwerthu canabis a chetamin.
Ar ôl ei arestio, gwnaeth swyddogion chwilio ei gyfeiriad cartref a dod o hyd i nifer o fagiau o ganabis a chetamin. Daethpwyd o hyd i fagiau snap a chlorian fach â phowdr gwyn drosti hefyd.
Cafodd Johnson Andrews ostyngiad o 33% am bledio'n euog a’i ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar. Mae hyn yn cynnwys pedair blynedd am y drosedd sy’n ymwneud â chetamin a chwe mis am y drosedd sy’n ymwneud â chanabis, gyda'r ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro Jonathan Shaddick:
"Mae’r arestiad, yr euogfarn a’r ddedfryd a roddwyd yn rhagorol, gan ddangos gwaith cyflym ac effeithlon yr heddlu o'r dechrau i'r diwedd yn dilyn ymchwiliad trylwyr.
“Rwy'n cydnabod gwaith PC Finch, a wnaeth arwain y warant, ynghyd â gwaith ardderchog swyddogion Timau Plismona yn y Gymdogaeth eraill yn y ddinas oedd yn rhan o'r ymchwiliad hwn.
"Mae gwaith Clirio, Dal, Adeiladu yn mynd rhagddo yn yr ardal ar hyn o bryd i greu Dyfaty gwell, ac mae hyn yn anfon neges glir y gall y rheini sy’n cyflawni troseddau yn yr ardal ddisgwyl cael eu dal a'u dwyn gerbron y llysoedd wrth i ni fynd i'r afael â'r materion hirdymor y mae pobl Dyfaty wedi treulio gormod o amser yn eu goddef.”
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu os oes well gennych chi gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw - ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.