Stamp amser presennol: 19/07/26 02:06:09
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Atafaelu a dinistrio 800 o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon mewn ymgyrch gan yr heddlu a chyngor

Cynnwys y prif erthygl

Caerdydd/Bro Morgannwg Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 13:42 07/07/2026
OpLivewire_CreditCardiffCouncil.jpg
Credit: Cardiff Council

 

Yn dilyn ymgyrch ar y cyd yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Gwener, mae rhagor o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu tynnu oddi ar y ffyrdd.

O ganlyniad i'r ymgyrch ddydd Gwener 3 Gorffennaf, pan fu Heddlu De Cymru, staff Cyngor Caerdydd, a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) oll yn gweithio ar y cyd, atafaelwyd a dinistriwyd 68 o gerbydau mecanyddol anghyfreithlon (MPVs).

Roedd yr atafaeliadau ddydd Gwener yn cynnwys sawl un o Daith Taf, a chafodd cyfanswm o 17 o e-feiciau anghyfreithlon eu canfod a'u hatafaelu o fannau gwyrdd a llwybrau yng Nghaerdydd. Atafaelwyd un e-feic hefyd gan feiciwr ar Stryd y Castell a oedd yn gallu cyrraedd 86km/h.

Mae cyfanswm yr MPVs anghyfreithlon a atafaelwyd ers Awst 2025 bellach wedi cyrraedd 800.

OpLivewire3_CreditSouthWalesPolice.jpg
Credit: South Wales Police

 

Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell o Heddlu De Cymru: 

"Mae'r gweithgarwch hwn, fel rhan o Ymgyrch Livewire, yn dilyn adroddiadau gan ein cymunedau lleol sydd wedi lleisio pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ar MPVs a materion cysylltiedig.

"Rydym yn parhau i gynnal y gweithrediadau hyn, sy'n gofyn am lawer o adnoddau, i fynd i'r afael â'r defnydd o e-feiciau a sgwteri anghyfreithlon yn ein cymunedau.

"Roedd yr ymgyrch hon yn cynnwys timau mewn dillad plaen ac iwnifform yn patrolio mewn mannau problemus, gan gynnwys Taith Taf, Gabalfa, Cathays, canol dinas Caerdydd, Treganna, a Grangetown."

OpLivewire_CreditSouthWalesPolice.jpg
 Credit: South Wales Police

 

Dywedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, Aelod o'r Cabinet dros Wasanaethau Rheng Flaen yng Nghyngor Caerdydd: "Mae beiciau trydanol ac e-sgwteri anghyfreithlon yn achosi problemau sylweddol mewn cymunedau lleol ar draws Caerdydd, gan gynnwys yng nghanol y ddinas a pharciau ledled y ddinas. Mae'r cyhoedd wedi ei gwneud yn glir i ni nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel pan fo e-feiciau anghyfreithlon yn cael eu reidio ar gyflymder gormodol yn eu cymunedau, felly rydym wedi gweithredu a byddwn yn parhau i wneud hynny.

"Yn aml nid oes trwydded gan feicwyr y beiciau hyn ac nid ydynt wedi'u hyswirio i'w defnyddio, gan greu perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Drwy weithio gyda Heddlu De Cymru, gallwn dargedu ardaloedd o'r ddinas lle maen nhw'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon ac atafaelu'r beiciau fel na ellir eu defnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol mwyach.

"Ers i ni ddechrau'r gweithrediadau hyn ym mis Awst 2025, rydym wedi tynnu 800 o e-feiciau, e-sgwteri a beiciau oddi ar y ffordd sydd wedi'u haddasu'n anghyfreithlon o'r strydoedd a'r mannau gwyrdd yng Nghaerdydd."

Yn ogystal â'r atafaeliadau, arestiwyd rhai beicwyr, gan gynnwys y rhain:

  • Dyn yn ei 20au o Gaerdydd wedi'i stopio ar Sur-Ron ym Mharc Lydstep, Gabalfa. Ar ôl stopio a chwilio, darganfuwyd ei fod yn meddu ar ddau ffôn symudol a 33 o becynnau o grac cocên a heroin gwerth tua £1000. Ymddangosodd yn y llys ddydd Sadwrn ac mae ef wedi cael ei ddyfarnu'n euog o ddau gyhuddiad o feddu ar gyffuriau Dosbarth A gyda'r bwriad o gyflenwi, ac un cyfrif o feddu ar gyffur rheoledig Dosbarth B. Bydd yn cael ei ddedfrydu y mis nesaf.
  • Dyn 18 oed, wedi'i ganfod yn Nhrelái gan NPAS yn ymddangos fel petai'n reidio e-feic anghyfreithlon. Gwnaeth swyddogion ar lawr gwlad arestio'r dyn, atafaelwyd yr e-feic a chadarnhawyd ei fod yn anghyfreithlon. Ar ôl ymchwilio ymhellach, cafodd y dyn 18 oed ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau Dosbarth B gyda'r bwriad o gyflenwi, a gyrru cerbyd modur heb drwydded yrru nac yswiriant. Mae ef wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth hyd nes y bydd ymholiadau pellach.
  • Bachgen 16 oed wedi'i ganfod gan NPAS yn Nhrelái yn reidio beic modur trydanol dan amheuaeth dosbarthu cyffuriau. Ymyrrodd swyddogion cymdogaeth lleol a chafodd y bachgen 16 oed, ynghyd â bachgen 16 oed arall, eu harestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B. Cafodd un o'r bobl ifanc ei arestio ymhellach ar dri chyhuddiad o ymosod ar weithwyr brys. Atafaelwyd tua 35g o ganabis hefyd.
  • Cafodd dyn 21 oed o'r Sblot ei stopio yn Cathays ar ôl i swyddog ei weld yn cwrdd â dyn ar Sur-Ron, cyn iddyn nhw fynd i mewn i lôn. Cafodd y dyn ei stopio a'i chwilio, cyn cael ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth B.

 

OpLivewire_Lydstep drugs and cash_CreditSouthWalesPolice.jpg
Drugs and phones seized during a stop search at Lydstep Park

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.