Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Digwyddodd yr ymosodiad ar 19 Ionawr mewn eiddo ym Merthyr Tudful.
Mae Samuel Price, 28 oed o Ferthyr Tudful, wedi cael ei ddedfrydu i flwyddyn a chwe mis yn y carchar ar ôl cael ei euogfarnu.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mawrth 14 Ebrill 2026 yn Llys y Goron Caerdydd, lle plediodd Price yn euog i achosi difrod troseddol, bygwth person gydag arf ymosodol/eitem lafnog, bygwth dinistrio eiddo, ymosod drwy guro ac achosi niwsans cyhoeddus.
Dechreuodd yr achos pan dderbyniodd swyddogion alwad am aflonyddwch mewn cyfeiriad ym Merthyr Tudful. Pan gyrhaeddodd swyddogion, dywedwyd bod rhywun wedi ymosod ar y dioddefwr a bod Price wedi codi'r dioddefwr a’i wthio yn erbyn y wal. Bu Price yn sefyll yn nrws yr eiddo yn ddiweddarach gyda chyllell yn ei ddwylo.
Pan gyrhaeddodd swyddogion yr eiddo, dechreuodd Price ymddwyn yn elyniaethus tuag atynt yn syth, gan fygwth taflu teledu a microdon atynt a bygwth arllwys dŵr berwedig drostynt. Gallai swyddogion glywed Price yn torri nifer o eitemau yn y tŷ, a phan aeth e at y drws eto, penderfynodd swyddogion ddefnyddio gwn Taser ar Price cyn ei arestio.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Ffion Hiscutt, “Roedd hwn yn ddigwyddiad trallodus iawn i'r dioddefwr. Bu’n rhaid i'r swyddogion oedd yn bresennol ddelio ag unigolyn bygythiol a gwyllt."
Mae Price bellach yn wynebu cyfnod yn y carchar, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi’r amser iddo fyfyrio ar ei weithredodd.”