Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Parc, Y Barri, ger Parc Porthceri, tua 10.30pm nos Llun, 13 Ebrill.
Cafwyd gwybod bod person wedi dioddef ymosodiad a bod sŵn ‘clec uchel’ yn debyg i ergydion gwn wedi cael ei glywed.
Fodd bynnag, does dim dioddefwr wedi cysylltu â ni nac wedi cael ei adnabod.
Rydym wedi cysylltu ag ysbytai lleol i ofyn am unrhyw wybodaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.
Arestiwyd dau berson ar y noson yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd.
Mae Dominic Bily, 18 oed o Lanrhymni, Caerdydd, wedi cael ei gyhuddo o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o godi ofn o drais.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn gynharach heddiw (dydd Mercher 15 Ebrill).
Cafodd Bily ei remandio i'r ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos mewn gwrandawiad llys arall y mis nesaf.
Mae bachgen 17 oed o Dreganna, a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ar fechnïaeth yr heddlu wrth i ni wneud ymholiadau pellach.
Mae nifer o eitemau, gan gynnwys casinau gwag, wedi cael eu hadfer o'r lleoliad ar gyfer profion fforensig.
Mae casinau neu getris gwag yn creu sŵn ‘clec’ uchel, ond nid ydynt yn tanio bwledi.
Mae’r heddlu wedi ailagor yr ardal gafodd ei hynysu, ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phillip Marchant, o Heddlu De Cymru: "Rydym yn deall y pryder a achoswyd gan y digwyddiad hwn, a hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned leol bod tîm o dditectifs yn ymchwilio i’r digwyddiad.
“Mae ymholiadau yn mynd rhagddynt yn gyflym i adnabod dioddefwyr, ond nid oes neb wedi cael ei adnabod hyn yn hyn.
“Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu cymorth a'u dealltwriaeth tra oedd ardaloedd ar gau ac wrth i’n hymholiadau barhau.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600113574
💻Cysylltwch â ni ar-lein yn https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞Ffoniwch 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.