Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Owen Evans o'r Barri wedi cael ei garcharu am droseddau rhyw.
Cafodd Evans, 39 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd i saith mlynedd o garchar, yn ogystal â chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Fe wnaeth Owen Evans gyfarfod â'r dioddefwr ar-lein a meithrin perthynas amhriodol â hi.
Daeth ei droseddau i ben pan roddodd y ferch ddewr wybod i ffrind, a reportiwyd y digwyddiad i Heddlu De Cymru.
I ddechrau, gwadodd Evans ei fod wedi cysylltu â'r dioddefwr neu gyfarfod â hi.
Fodd bynnag, plediodd yn euog yn ddiweddarach i'r cyhuddiadau canlynol:
Wrth i Evans gael ei ddedfrydu ddydd Gwener 10 Ebrill, gwnaeth y barnwr ganmol y dioddefwr am ei dewrder a'r swyddog yn yr achos am safon yr ymchwiliad.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Tom Hurley, o Heddlu De Cymru: “Mae'r dioddefwr wedi bod yn eithriadol o ddewr a chryf yn parhau â'r mater hwn.
“Gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi rhywfaint o heddwch iddi ac yn ei galluogi i ddechrau teimlo'n ddiogel eto.
“Mae hefyd yn bwysig cydnabod y gefnogaeth wych a gafodd gan ei theulu a’i ffrindiau.
"Diolch i bob un ohonynt, rydym wedi gallu euogfarnu dyn sy'n amlwg yn fygythiad sylweddol i ferched ifanc.”
Yn rhan o'i ddedfryd, bydd yn rhaid i Evans gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol. Fe gafodd ei wneud yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd hefyd.
Rhoddwyd gorchymyn atal i'w atal rhag cysylltu â'i ddioddefwr hyd nes clywir yn wahanol.
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.