Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ferthyr wedi cael ei garcharu am gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plentyn yn y gorffennol.
Cyflawnodd Phillip Harris, 58 oed o Ferthyr Tudful, y troseddau rhwng 1989 a 1991 pan oedd ei ddioddefwr – sydd bellach yn ei 40au hwyr – yn blentyn.
Rhoddodd y dioddefwr wybod i Heddlu De Cymru am y troseddau flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2023, ar ôl dweud wrth ei bartner am yr hyn ddigwyddodd.
Cafodd Harris ei arestio, a chwiliodd swyddogion ei dŷ tra oedd yn y ddalfa. Atafaelwyd sawl dyfais a gwnaeth swyddogion ddarganfod nifer o ddelweddau anweddus, gan gynnwys delweddau Categori A.
Cafodd ei gyhuddo o chwe achos o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed, pum achos o anwedduster difrifol yn erbyn bachgen dan 14 oed, cyflawni sodomiaeth ar fachgen dan 16, tri achos o greu delweddau anweddus o blentyn, a bod â llun pornograffig eithafol o blentyn yn ei feddiant. Plediodd yn euog i'r cyhuddiadau hyn. Plediodd yn ddieuog i gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed ac anwedduster difrifol yn erbyn bachgen dan 14 oed ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial ym mis Mawrth, 2026.
Yn ei ddatganiad am effaith y troseddau arno, dywedodd y ddioddefwr wrth y llys ei fod yn teimlo ‘wedi’i lethu gan yr atgofion a’r ymdeimlad dirdynnol, cyson o golled’. Dywedodd wrth y llys fod Harris wedi cymryd rhywbeth oddi wrtho na all byth ei gael yn ôl – ei blentyndod.
Ar 17 Ebrill 2026, ymddangosodd Phillip Harris gerbron Llys y Goron Casnewydd i gael ei ddedfrydu. Cafodd ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a bydd rhaid iddo fe gofrestru fel troseddwr rhyw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leah Williams, a oedd yn arwain yr ymchwiliad:
“Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn, a gafodd ei orfodi i fynd drwy broses treial anodd ar ôl i ddyn fanteisio arno pan oedd yn blentyn.
“Er y bydd trawma’r hyn ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl yn aros gydag ef, drwy sicrhau cyfiawnder, rwy'n gobeithio y bydd e’n gallu cymryd camau pwysig ymlaen yn ei fywyd.
“Mae’r achos hwn yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd o’r fath. Rydym yn cymryd pob adroddiad o ddifrif ac yn ymchwilio iddynt yn drylwyr, gyda’r nod o sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.”