Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei charcharu ar ôl iddi daro dyn â’i char yn fwriadol a gwrthod stopio.
Cafodd Louise Blackwell, 59 oed o Bort Talbot, ei gweld yn gollwng y dioddefwr ar Heol Margam yn ystod oriau mân 23 Hydref 2025 cyn gyrru i ffwrdd, troi o gwmpas a gyrru i mewn i'r dioddefwr ar gyflymder wrth iddo groesi'r ffordd. Ni ddangosodd Blackwell unrhyw arwyddion o arafu wrth iddi ffoi o'r lleoliad yn ei cherbyd.
Canfu ymchwiliad gan Heddlu De Cymru fod Blackwell yn gyrru dan ddylanwad alcohol adeg y digwyddiad. Daethpwyd o hyd i Blackwell ac fe gafodd ei harestio ddyddiau'n ddiweddarach.
Plediodd Blackwell yn euog i achosi niwed corfforol difrifol heb fwriad ym mis Rhagfyr.
Plediodd Blackwell yn ddieuog i ymgais i lofruddio ac Adran 18 clwyfo'n fwriadol, ond fe'i cafwyd yn euog o'r ail drosedd ar 16 Ebrill.
Heddiw, mae wedi cael ei dedfrydu i deg mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Tom Herbert:
“Mae Louise Blackwell yn fenyw hynod beryglus sy'n llawn haeddu cyfnod yn y carchar.
“Cafodd y dioddefwr ei anafu'n ddifrifol a bydd yn cymryd cyfnod sylweddol iddo wella'n llwyr ar ôl i Louise Blackwell ei daro ar gymaint o gyflymder.
“Mewn ymgais i gelu'r hyn roedd wedi'i wneud, dywedodd Blackwell wrth ei merch ei bod wedi taro anifail. Gofynnodd iddi ei helpu i gael gwared ar unrhyw dystiolaeth ar y cerbyd, cyn cyfaddef y cwbl yn y pen draw.
“Cyfuniad o alcohol a dicter achosodd i Louise Blackwell gyflawni ei gweithredoedd erchyll y diwrnod hwnnw ym mis Hydref. Bydd hi'n awr yn talu am ei throseddau o'r diwedd."