Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl i reithgor ei gael yn euog o dreisio.
Fe wnaeth Abdul Shahid, 41 oed o Sgeti, roi’r argraff i'w ddioddefwr ei fod yn yrrwr Uber pan aeth i’w chasglu yng nghanol dinas Abertawe, er nad oedd hynny’n wir. Yn hytrach, gyrrodd hi drwy ffyrdd tywyll cyn stopio mewn maes parcio a’i threisio.
Ar ôl pledio'n ddieuog i bob cyhuddiad yn ei erbyn, cafwyd Shahid yn euog o ddau gyhuddiad o dreisio ac un cyhuddiad o ymosod drwy dreiddio.
Cafodd ddedfryd estynedig o 18 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Claire Davies:
“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn am roi gwybod i'r heddlu ac am fod yn ddewr drwy gydol yr ymchwiliad. Diolch iddi hi, rydym wedi llwyddo i euogfarnu dyn sydd, yn amlwg, yn fygythiad i fenywod. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ei helpu i symud ymlaen mewn ffordd fwy cadarnhaol a rhoi rhywfaint o gysur iddi.
“Yn ystod yr achos llys, ni ddangosodd Shahid unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd ac fe wnaeth e hyd yn oed geisio beio’r dioddefwr am yr hyn ddigwyddodd. Y cwbl wnaeth y dioddefwr oedd ceisio mynd adref, ac ymddiried mewn dyn yr oedd hi’n meddwl oedd yn yrrwr Uber.
“Os ydych chi wedi dioddef trosedd rywiol, rydym yn eich annog i roi gwybod i'r heddlu cyn gynted â phosibl. Byddwch yn cael eich cefnogi a bydd swyddogion yn trin pob achos gyda sensitifrwydd a phroffesiynoldeb.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.