Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio.
Cafwyd Michael Allen, 45 oed o Bort Talbot, yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio dau achwynydd gwahanol ym mis Mawrth.
Roedd y ddau ddioddefwr o dan 18 oed pan gyflawnodd Allen y troseddau.
Mae Allen wedi cael ei ddedfrydu i 23 o flynyddoedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Penny Romanello:
“Mae’r ymchwiliad trylwyr hwn wedi dangos bod Michael Allen yn ddyn hynod o beryglus nad yw’n poeni dim am gyflawni troseddau rhywiol erchyll yn erbyn plant.
“Mae dau ddioddefwr wedi mynd trwy brofiad ofnadwy o’i achos e. Ni allwn hyd yn oed ddechrau deall y niwed y mae wedi'i achosi iddynt yn gorfforol ac yn feddyliol.
“Rydym yn canmol dewrder y ddau ddioddefwr wrth roi gwybod i ni am droseddau Michael Allen.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.