Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo ddechrau tân yn ei lety â chymorth yn fwriadol, gan beryglu bywydau pobl eraill wrth wneud hynny.
Defnyddiodd Matthew Draper, 40 oed o ganol y ddinas, danwydd i losgi locer yn hostel The Wallich, sef hostel i bobl ag anghenion cymhleth, gan aros ar y safle wedyn i wylio'r tân yn lledaenu.
Plediodd Draper yn euog i losgi bwriadol a llosgi bwriadol diofal ynglŷn â pheryglu bywyd. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 27 mis yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Gareth Bennett:
“Gallai ymddygiad hurt fel ymddygiad Matthew Draper fod wedi arwain at anafiadau difrifol neu hyd yn oed colled bywyd y diwrnod hwnnw.
“Roedd hwn yn ymddygiad hollol ddifeddwl ac ni ellir ei oddef
“Mae'n amlwg ei fod yn berygl i gymdeithas ac mai’r carchar yw'r lle gorau iddo."