Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl i reithgor ei gael yn euog o dreisio menyw ac ymosod arni.
Gwnaeth Adam Ezalden, 30 oed o Waun Wen, bwnio a chicio ei ddioddefwr ar sawl achlysur ar ôl iddi ei gwneud yn glir nad oedd hi wedi rhoi ei chydsyniad iddo. Dim ond ar ôl bwrw Ezalden yn ei wyneb â’i phenelin a manteisio ar y cyfle i redeg i ffwrdd y llwyddodd y dioddefwr i ddianc yn ystod yr ymosodiad ym mis Ebrill 2024.
Cafwyd Ezalden yn euog o dreisio ac ymosod gan achosi gwir niwed corfforol ym mis Mawrth 2026. Yr wythnos hon, mae wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Carys Davies:
“Roedd hwn yn ymosodiad dychrynllyd lle defnyddiodd Adam Ezalden ei bŵer dros y dioddefwr i gael pleser rhywiol, gan ddefnyddio trais i gyflawni hynny.
“Mae'n amlwg yn peri risg i fenywod ac nid oes croeso iddo ar strydoedd Abertawe.
“Gobeithio y bydd y dioddefwr yn gallu goresgyn y trawma a ddioddefodd dan ddwylo Adam Ezalden, ac rydym yn ei chanmol am ei dewrder wrth roi gwybod i ni.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.