Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddal yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Kian Meredith, 22 oed o Townhill, ei weld gan swyddogion mewn dillad plaen yn cyflawni’r hyn oedd yn ymddangos fel delio cyffuriau ar Prince of Wales Road. Ar ôl i Meredith geisio rhedeg i ffwrdd, fe wnaeth swyddogion ei ddal a’i arestio ar Greenhill Street, lle'r oedd Meredith yn cuddio y tu ôl i gar.
Ym mis Mawrth, plediodd Meredith yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên a bod â chyffur rheoledig o Ddosbarth A yn ei feddiant.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Rhingyll Luke Tucker:
“Cafodd Kian Meredith ei ddal yn ceisio cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a pheri trallod ar strydoedd Abertawe.
“Pan gafodd ei arestio, canfuwyd bod ganddo £115 mewn arian parod yn ei feddiant, a darganfuwyd lapiad o gocên ar y llawr gerllaw.
“Bydd yn mynd i'r carchar am bron i bedair blynedd – sy’n bris uchel i'w dalu ac yn dangos nad yw delio cyffuriau Dosbarth A yn werth y risg. Bydd ein swyddogion yn eich dal chi a byddwch yn mynd i'r carchar."