Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deliwr cyffuriau wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan dditectifs yn Heddlu De Cymru.
Dedfrydwyd Courtney Daley, 26 oed o Trowbridge, i dair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 26 Ionawr.
Roedd hyn yn dilyn pledion euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên ac ymwneud â chyflenwi heroin yn Llys Ynadon Caerdydd ar 30 Rhagfyr.
Mae Daley wedi bod yn defnyddio llinell gyffuriau i anfon negeseuon testun mewn swmp yn hysbysebu crac cocên a heroin, gan gynnwys negeseuon fel “live the best of both.”
Cafodd ei weithgareddau anghyfreithlon eu datgelu gan swyddogion yn Uned Troseddau Cyfundrefnol a Chuddwybodaeth Caerdydd a'r Fro ar ôl iddynt nodi bod y rhif hysbysebu yn gysylltiedig ag ef.
Gweithredwyd gwarant yn nhŷ Daley ar 29 Rhagfyr, a chafodd ei arestio ar amheuaeth o'r troseddau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jac Homan: “Rydym yn ymrwymedig i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol am ddosbarthiad cyffuriau yn ardal ein heddlu ac rwy'n falch o weld Daley yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd.
“Mae'r rhai sy'n gwerthu cyffuriau yn aml yn camfanteisio ar bobl iau a phobl mwy agored i niwed i wneud pethau ar eu rhan wrth elwa'n ariannol, ac mae pob euogfarn fel hon yn helpu i gadw ein cymunedau'n fwy diogel.”
Mae mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i fynd ati'n ddiflino i fynd ar ôl troseddwyr er mwyn diogelu ein cymunedau rhag niwed.
Os byddwch yn amau bod rhywun yn delio cyffuriau neu'n poeni bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.