Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn o Donypandy wedi cael eu carcharu ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau, gan gynnwys ymosodiad.
Plediodd Kian Davies, 20 oed, o Donypandy, yn euog i ladrad, ymosodiad, meddu ar arf ymosodol mewn man cyhoeddus ac ymgais i gyflawni lladrad.
Plediodd Shay Jones, 21 oed, o Donypandy, yn euog i ladrad, ymgais i gyflawni lladrad ac ymosodiad.
Bu nifer o ddigwyddiadau dros gyfnod o dri diwrnod. Digwyddodd y cyntaf ar 7 Awst 2025, lle tarodd Davies y dioddefwr ar ochr ei ben â morthwyl wrth iddo eistedd ar fainc. Parhaodd Davies i daro pen ac ysgwyddau'r dioddefwr, gan ei orfodi i roi ei ffôn a'i fag bach iddo. Gwnaeth Jones, a oedd hefyd yn y lleoliad, fygwth y dioddefwr cyn cymryd ei eiddo.
Digwyddodd yr ail ddigwyddiad ddydd Gwener 8 Awst, lle aeth Davies a Jones i gyfeiriad ym Mhentre, a phan agorodd y dioddefwr y drws, gwthiodd Davies a Jones i mewn a mynnu arian gan y dioddefwr a'i fygwth â chyllell.
Digwyddodd y trydydd digwyddiad ddydd Sadwrn 9 Awst, lle dywedodd Davies a Jones wrth y dioddefwr fod ganddynt feic yr oeddent yn fodlon ei werthu. Pan gyrhaeddodd y dioddefwr â'r arian, nid oedd beic a cheisiodd Davies drywanu'r dioddefwr sawl gwaith cyn iddo lwyddo i ddianc.
Cafodd y ddau eu dedfrydu pan wnaethant ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 9 Chwefror.
Cafodd Davies ei ddedfrydu i bum mlynedd ac un mis mewn sefydliad troseddau ieuenctid a chafodd orchymyn atal deg mlynedd.
Cafodd Jones ei ddedfrydu i bedair blynedd a thri mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Owain Hembury, "Ni ddylai neb orfod cerdded ar ein strydoedd yn ofni pobl fygythiol fel Kian Davies a Shay Jones.
"Roedd eu hymosodiad ar y dioddefwr, ac yna'r ddau ymgais i gyflawni lladrad yn llwfr ac yn gwbl annerbyniol.
“Mae'r ffaith eu bod wedi credu y byddent yn osgoi cael eu dal am y drosedd hon yn dweud y cyfan am eu cymeriadau gwael. Carchar yw'r lle cywir iddynt.”