Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

O'r chwith i'r dde: Mackenzie Daly, Evan Andrews & Jacob Lawday
Mae tri dyn ifanc o Gaerdydd wedi cael eu carcharu yn dilyn cyfres o fwrgleriaethau, gan gynnwys lladrata wyth car a chwech beic dros gyfnod o 22 o ddiwrnodau.
Ym mis Awst y llynedd, dygodd Jacob Lawday, 19, ac Evan Andrews, 18, dair set o allweddi o gyfeiriad yn Llan-faes cyn gyrru ymaith mewn Kia X-Ceed a Mercedes E 220, wedi'u dwyn o'r tu allan.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cafodd y cerbydau eu hatafaelu yn ardal Penarth ar ôl i'r perchnogion ddefnyddio dyfeisiau tracio. Roedd swyddogion yn y lleoliad lle daethpwyd o hyd i'r ddau gerbyd, pan welsant Range Rover yn cael ei yrru mewn ffordd amheus gan ddyn ifanc.
Ar ôl cynnal gwiriadau ar y plât cofrestru, daeth yn amlwg i'r swyddogion fod y cerbyd yn cael ei yrru â phlât ffug wedi'i glonio. Pan geisiodd y swyddogion stopio'r cerbyd, rhedodd Lawday ac Andrews i ffwrdd ond cawsant eu dal gan y swyddogion a'u dilynodd ar droed cyn iddynt fynd yn rhy bell.
Roedd y Range Rover wedi cael ei ddwyn o gyfeiriad yng Nghaerdydd dridiau yn gynharach.
Ar ôl iddynt gael eu harestio a phan oeddent ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, targedodd Lawday ac Andrews bedwar cyfeiriad arall dros gyfnod o ddeuddydd ym mis Medi.
Gwnaethant ddwyn BMW a Peugeot o gyfeiriad yn Aberogwr. Roedd dyfais dracio ar y BMW a chafodd ei atafaelu'n ddiweddarach yng Nghaerdydd. Roedd yr un BMW wedi cael ei weld ar system CCTV gyda Ford Transit a diolch i lygad dyst, llwyddodd swyddogion i ddod o hyd i'r fan a'i stopio ym Mhenarth. Roedd yn cael ei yrru gan Andrews ac roedd Mackenzie Daly, 19 oed, a Lawday yn deithwyr.
Ar ôl i swyddogion chwilio'r fan, cafodd pedwar beic a oedd wedi'u dwyn ac allwedd ar gyfer car BMW eu hatafaelu. Cafodd y tri eu harestio.
Cyfunodd ditectifs dystiolaeth o'r gwahanol fwrgleriaethau a'r achosion o ladrata ac o ganlyniad, cafodd y tri dyn ifanc eu heuogfarnu.
Cafwyd y tri yn euog o amrywiaeth o droseddau yn ymwneud â bwrgleriaeth a lladrata. Yr wythnos hon, cafodd Andrews a Daly eu hanfon i sefydliad troseddwyr ifanc am 32 mis a chafodd Lawday ei ddedfrydu i ddwy flynedd yn y carchar.