Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd a honnodd fod ffôn gyffuriau y daeth yr heddlu o hyd iddi yn ei fflat wedi bod yn cael ei storio mewn powlen o reis ar gyfer ffrind a oedd yn ddeliwr cyffuriau a oedd wedi gollwng y ffôn mewn pwll o ddŵr y tu allan i'w gyfeiriad, wedi cael ei garcharu.
Mae'n un o nifer o esgusodion a roddodd Ahmed Mohamed, 28 oed o Gaerdydd, i swyddogion wrth gael ei gwestiynu yn nalfa'r heddlu.
Roedd wedi cael ei gysylltu fel perchennog ffôn symudol y llwyddodd swyddogion i brofi ei bod wedi cael ei defnyddio ynghyd â ffôn gyffuriau hysbys, a chafodd ei arestio gan swyddogion ar 24 Tachwedd 2025 ar y stryd y tu allan i'w fflat yn The Boulevard.
Roedd swyddogion yn paratoi i weithredu gwarant chwilio wrth iddo gyrraedd yn ei gar yr oedd yn ei rentu, a chafodd ei arestio yn y fan a'r lle.
Yn ystod chwiliad o'i gar a'i fflat, daeth swyddogion o hyd i grac cocên, cocên, cloriannau digidol, peiriant cyfrif arian a chyllell mewn gwain. Wrth ei chwilio, daeth swyddogion o hyd i grac cocên wedi'i guddio yn ei ddillad isaf.
Wrth gael ei gwestiynu yn y ddalfa, gwadodd Ahmed ei fod yn ddeliwr cyffuriau. Dywedodd wrth swyddogion ei fod yn cadw ffôn gyffuriau y daethpwyd o hyd iddi yn ei fflat ar gyfer deliwr cyffuriau a oedd wedi gollwng y ffôn mewn pwll o ddŵr y tu allan i'w dŷ a'i fod wedi anghofio dod i'w nôl. Dywedodd ei fod wedi cynnig ei chadw mewn powlen o reis i'w sychu. Honnodd hefyd mai ef oedd yn defnyddio'r cyffuriau y daethpwyd o hyd iddynt, a oedd â gwerth posibl o fwy na £3k, a'i fod yn cadw cyffuriau yn ei ddillad isaf i sicrhau na fyddai'n eu colli. Honnodd fod y peiriant cyfrif arian a atafaelwyd o'i fflat yn cael ei ddefnyddio mewn fideo cerddoriaeth.
Ond datblygodd ditectifs o Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro achos cryf a sicrhaodd ei fod yn pledio'n euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên a chocên, bod â chrac cocên a chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, caffael eiddo troseddol – sef arian, bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a gyrru tra roedd wedi'i wahardd.
Ddydd Gwener, 30 Ionawr, ymddangosodd i gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd a chafodd ei garcharu am 52 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Adam Fenlon:
“Rhoddodd gynnig ar bob esgus i wadu ei fod yn ddeliwr cyffuriau ond yn y pen draw, roedd llawer o dystiolaeth ac nid oedd opsiwn gwell ganddo ond pledio'n euog.
“Cafodd ei arestio o ganlyniad i waith ffôn fforensig rhagorol a'n galluogodd i'w gysylltu'n uniongyrchol â ffôn gyffuriau yr oeddem yn ymchwilio iddi.
“Mae ein tîm yn ymrwymedig i chwalu busnes delwyr cyffuriau a'u bod yn mynd i'r carchar a bydd y gwaith hwn yn parhau.”