Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio.
Plediodd Yogesh Parmar, 35 oed o Mount Pleasant, yn ddieuog i'r drosedd ond fe'i cafwyd yn euog ar 26 Ionawr.
Cafwyd Parmar hefyd yn euog o gymryd rhan mewn ymddygiad rheolaethol/gorfodaethol, ar ôl pledio'n ddieuog i'r drosedd hon hefyd.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lauren Williams:
“Gwnaeth Yogesh Parmar dreisio ei ddioddefwr a gwneud iddi ofni y byddai'n dreisgar tuag ati ar sawl achlysur. Gwnaeth ymosod arni'n gorfforol, ei hatal rhag gadael ei gartref a bygwth dinistrio ei heiddo.
“Roedd hyn yn brofiad dychrynllyd i'r dioddefwr, ac rydym yn ei chanmol am ei dewrder wrth gysylltu â ni a rhoi gwybod am droseddau Yogesh Parmar.
“Rydym yn gobeithio y bydd y rheithfarn a'r ddedfryd hon yn galluogi'r dioddefwr i ddod i delerau â'r hyn a wnaeth Yogesh Parmar iddi, a symud ymlaen â'i bywyd, heb ofni'r hyn y byddai'n ei wneud nesaf.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.