Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Joshua Smith, 24 oed, o Dregatwg, wedi cymryd rhan mewn sawl achos o ladrata o siopau lleol.
Mae'n mynd i mewn i safleoedd yn rheolaidd heb unrhyw fwriad i brynu nwyddau ac mae swyddogion wedi'i weld yn ymddwyn mewn modd ymosodol a bygythiol pan gaiff ei herio.
Yn dilyn ei euogfarn ddiweddar am dri achos o ladrata ac un achos o ymgais i ladrata, cafodd Smith Orchymyn Ymddygiad Troseddol am dair blynedd yn Llys Ynadon Caerdydd ar 4 Chwefror.
Clywodd y llys fod y Gorchymyn yn angenrheidiol i atal troseddu ac amddiffyn y gymuned, gweithwyr lleol, ac aelodau'r cyhoedd rhag gofid a tharfu parhaus a niwed posibl.
Dywedodd Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Heddlu De Cymru, Cwnstabl yr Heddlu Adrian Muscat: “Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion fel Joshua Smith
“Gall dwyn o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siop a manwerthwyr.
"Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â lladrata o siopau a chefnogi'r diwydiant."
Fel rhan o'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, mae Smith wedi'i wahardd o Asda, Morrisons ac Iceland yn y dref a'r One Stop Shop ar Broad Street.
Mae'r gorchymyn hefyd yn ei atal rhag mynd i Holton Road, ac eithrio ar gyfer apwyntiadau meddygol neu apwyntiadau gyda gwasanaethau cymorth a drefnwyd ymlaen llaw.
Mae hefyd wedi'i wahardd o eiddo nifer o ddarparwyr tai - Junction House ar Hood Road, Ellis Fisher ar Broad Street, a Thŷ'r Gyfraith ar Greenwood Street.
Dyma'r llwyddiant diweddaraf yn dilyn dull gweithredu ehangach newydd o fynd i'r afael â dwyn o siopau gan heddlu Caerdydd a'r Fro.
Mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â manwerthwyr a busnesau i wella'r broses o rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn ogystal ag arestio troseddwyr cyson sy'n elwa o ladrata o siopau.
Rhoddwyd y dull ar waith fel ymateb i'r cynnydd mewn lladrata o siopau ac i wella ymddiriedaeth a hyder o fewn ein cymunedau busnes.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau ac achosion o dorri gorchmynion.
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.