Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Justin James, 46 oed o Drelái, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar dair menyw dros gyfnod o dair blynedd.
Cafwyd James yn euog o bum achos o ymosodiad rhywiol drwy dreiddio a chwe achos o ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 23 Ionawr i 14 o flynyddoedd yn y carchar, a chafodd ei roi ar y gofrestr troseddau rhyw am gyfnod amhenodol.
Cadarnhaodd gwrandawiad arall ddoe (dydd Mawrth 10 Chwefror) fod James hefyd yn destun Gorchymyn Atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lewis Clarke, o Heddlu De Cymru:
“Mae troseddau James wedi cael effaith fawr ar y dioddefwyr a'u teuluoedd, ac ar ddiwedd y treial roeddent yn teimlo rhyddhad enfawr bod eu lleisiau wedi cael eu clywed.
“Wrth gwrs, ni fydd y ddedfryd yn dadwneud yr hyn a ddigwyddodd iddynt, ond mae'n rhoi tawelwch meddwl iddynt eu bod wedi cael eu cymryd o ddifrif ac y byddant yn cael eu hamddiffyn rhag Justin James drwy'r ddedfryd y mae wedi'i chael.”
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.