Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r wythnos hon yn wythnos ymwybyddiaeth cam-drin rhywiol a thrais rhywiol
Wythnos yma yw wythnos ymwybyddiaeth cam-drin rhywiol a thrais rhywiol, sydd â'r nod o anfon neges glir #ItsNotOk. Mae'r wythnos yn nodi ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am beth yw cam-drin rhywiol a thrais rhywiol ac i grymuso dioddefwyr i ddod ymlaen.
Nid yw’n iawn ac rydym yma i helpu.
Dylai cariad deimlo'n dda, nid yn frawychus.
Ymosodiad rhywiol yw pan fydd rhywun yn cyffwrdd â chi mewn ffordd rywiol heb eich caniatâd, ac mae hefyd yn drosedd i rywun yn eich gorfodi i wneud neu weld rhywbeth rhywiol heb eich caniatâd. Gall hyn ddigwydd mewn perthynas, gan rywun rydych yn ei adnabod neu gan ddieithryn.


Os ydych yn ddioddefwr, rhowch wybod i ni. Os nad ydych yn barod i siarad â ni, mae sefydliadau eraill a all helpu.
Mae Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn fan lle gallwch fynd ar ôl treisio neu ymosodiad rhywiol i gael cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.