Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ryan Rankmore, 42, o Lanrhymni wedi cael ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar ar ôl iddo bledio'n euog i ladrata o siop a thri achos o ymosod drwy daro.
Ar 8 Chwefror 2026, aeth Rankmore i mewn i wasanaethau Welcome Break ym Mhorth Caerdydd a dechrau llenwi bag ag eitemau, gan gynnwys prydau parod, alcohol a Lego.
Cafodd Rankmore ei herio gan ddau aelod o staff a ddywedodd wrtho am fynd i dalu am yr eitemau. Ymatebodd gan ddefnyddio iaith ymosodol ac ymddwyn yn ymosodol.
Ar ôl gadael y siop gwnaeth Rankmore daro un aelod o staff yn ei wyneb â chan o Red Bull. Cafodd swyddogion eu galw i'r siop a chwiliwyd yr ardal. Cafodd Rankmore ei weld gerllaw gan y tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol, ond rhedodd i ffwrdd pan geisiodd swyddogion ei atal.
Yna neidiodd Rankmore i'r dŵr i osgoi cael ei arestio, cyn bygwth mynd ymhellach i'r afon.
Roedd adnoddau o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu yn bresennol, a llwyddwyd i dynnu Rankmore o'r afon i fyny i'r lan lle cafodd ei arestio ar amheuaeth o ladrata o siop ac ymosod drwy daro.
Ar ôl ei arestio, datgelwyd bod Rankmore ar fechnïaeth amodol yn aros am achos llys ar ôl cael ei gyhuddo o ddau achos o ymosod drwy daro, yn dilyn digwyddiad ym mis Mehefin 2025. Newidiodd ei ble i euog ar 10 Chwefror.
Dywedodd PC Jones:
“Roedd gweithredoedd Rankmore ar 8 Chwefror yn anfaddeuol. Ni ddylai neb ddioddef trais nag ymddygiad bygythiol dim ond am wneud eu gwaith. Gwnaeth ei ymdrechion i osgoi cael ei arestio nid yn unig wastraffu adnoddau brys, ond roeddent hefyd yn ddibwrpas, gan ein bod yn benderfynol o'i ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd.
“Mae cyhuddiadau ychwanegol Rankmore am ymosod yn amlygu ei ymddygiad ymosodol, ac rwy’n falch o’i weld yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei holl weithredoedd.”