Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri lleidr a aeth i mewn i dŷ yn Nhrelái a bygwth plant y tu mewn â chyllell cyn dianc â'u consol gemau a'u ffonau symudol wedi cael eu carcharu.
Aeth Anthony Edmunds, Ben Emmott a Craig Smith i mewn i dŷ eu dioddefwyr ar Jackson Road yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Mercher, 20 Awst.
Gwnaethant fygwth y plant â chyllyll cyn dianc â ffonau symudol a chonsol gemau, gan adael y dioddefwyr wedi dychryn am eu bywyd.
Ond cawsant eu harestio yn fuan ar ôl hynny ar stryd gyfagos. Er gwaethaf ei hofn, ar ôl iddi sylweddoli eu bod wedi cymryd ei ffôn, cysylltodd un o'r dioddefwyr â Heddlu De Cymru a defnyddiodd y cyfleuster 'Find My I phone' i leoli'r ffôn.
O fewn munudau, cyrhaeddodd swyddogion a daethant o hyd i'r tri dyn mewn car wedi'i barcio ar Plymouthwood Close.
Cafodd Edmunds, Smith ac Emmott eu harestio a phan chwiliodd swyddogion y car, daethant o hyd i ddwy gyllell a chrysau-t roeddent wedi'u lapio o amgylch eu hwynebau ar adeg y drosedd.
Cawsant eu cyhuddo o fwrgleriaeth waethygedig a phlediodd Edmunds a Smith yn euog. I ddechrau, gwadodd Emmott ei fod wedi bod yn rhan o'r drosedd, ond newidiodd ei ble i euog yn ddiweddarach.
Ddydd Iau, 12 Chwefror, cafodd Edmunds 52 oed, o Dredelerch, ei garcharu am wyth mlynedd, ac 14 wythnos ychwanegol o ddedfryd ohiriedig a fydd yn olynol. Cafodd Emmott, 33 oed, o Gaerau, ei garcharu am naw mlynedd a phedwar mis, a chafodd Smith, 44 oed, o Adamsdown, ei garcharu am saith mlynedd a saith mis.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Craig Pearce:
“Hoffwn ganmol dewrder y dioddefwyr ifanc. Roedd yn ddigwyddiad brawychus iddynt, ond diolch i'w meddwl cyflym, cafodd y troseddwyr eu harestio o fewn munudau. Mae digwyddiadau o'r fath yn anghyffredin iawn ac mae'r strydoedd wir yn fwy diogel â'r troseddwyr llwfr ac anfoesol hyn o dan glo."