Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i'r heddlu dderbyn adroddiad bod nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon wedi'u canfod mewn eiddo yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Stryd Commercial, Abergwynfi, yn dilyn yr adroddiad am oddeutu 9.30pm neithiwr (nos Sul, 15 Chwefror).
Arestiwyd dyn 51 oed o Flaengwynfi ar amheuaeth o geisio creu ffrwydryn gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo.
Mae'r eiddo wedi'i ddynodi'n lleoliad trosedd wrth i chwiliadau gael eu cynnal gyda chymorth amlasiantaethol. Bydd mwy o heddlu i'w gweld yn yr ardal wrth i ymchwiliad fynd rhagddo.
Mae preswylwyr eiddo cyfagos wedi gadael eu cartrefi lle y bo'n bosibl fel rhagofal diogelwch. Mae asiantaethau partneriaeth hyfforddedig yn cefnogi'r broses hon. Cadwch draw o'r ardal er mwyn i'r gwasanaethau brys allu cyrraedd.